Navigation

Content

Yr wiber

Yr wiber yw’n unig neidr wenwynig yn y DU. Serch hynny, mae fel rheol yn swil ac nid yw’n ymosodol tuag at bobl.

Disgrifiad ac adnabod: Mae’r wiber fel rheol yn tyfu i ryw 65cm o hyd. Mae eu lliw yn amrywio, gyda’r gwryw fel rheol yn llwyd, melyn golau neu hufen gyda marciau tywyll a’r fenyw yn frown neu’n gochlyd gyda marciau brown. Mae gwiberod ifanc o’r ddau ryw yn gochlyd. Mae gan y rhan fwyaf batrwm igam-ogam i lawr y cefn. Mae’r llygaid yn gochlyd a channwyll y llygad yn fertigol. Mae’r wiber yn fwyaf tebygol o gael ei drysu gyda neidr y gwair, ond gellir gwahaniaethu gyda’r patrwm igam-ogam a diffyg y ‘goler’ ddu a melyn sydd gan neidr y gwair y tu ôl i’r pen.

Gwiber (Mike Richardson / Sarah Winch)Cynefin: Mae’r wiber yn eithaf anodd ei phlesio o ran cynefin. Mae angen mannau agored heulog yn agos i ardaloedd o lystyfiant trwchus er mwyn cuddio. Mae i’w chael ar rostir, gweundir, glaswelltir, safleoedd arfordirol, ymyl coedlannau a rhai hen safleoedd diwydiannol, fel arfer ar bridd tywod ysgafn neu galch.

Deiet: y prif brae yw mamaliaid bach megis llygod. Cymerir madfallod, cywion adar a llyffantod hefyd. Wrth hela, mae’r wiber yn taro ei phrae gyda’i dannedd, gan chwistrellu gwenwyn. Mae wedyn yn rhyddhau’r anifail ac yn dilyn yr arogl i gael hyd iddo wedi marw neu ar farw, gan ei lyncu’n gyfan.

Ecoleg ac atgynhyrchu: Mae’r wiber yn deffro o’i gaeafgwsg ym mis Chwefror neu Fawrth ac yn treulio’r ychydig o wythnosau cyntaf yn torheulo. Ar ôl colli eu hen grwyn, mae’r gwrywon yn dod yn fwy egnïol ac yn cystadlu gyda’i gilydd am y benywod mewn “dawns” ffurfiol. Mae’r benywod yn rhoi genediaeth i rhwng 3 a 18 o rai ifanc byw yn Awst neu Fedi. Cymer rhyw dair i bedair blynedd i’r nadroedd aeddfedu. Yn y gaeaf maent yn gaeafgysgu mewn systemau gwreiddiau coed neu rigolion, yn enwedig ar lethrau sy’n wynebu’r de. Tra maent yn bennaf yn weithgar yn ystod y dydd; pan fydd yn arbennig o boeth maent hefyd yn weithgar yn ystod y nos. Mae gwiberod wedi brathu pobl o bryd i’w gilydd os aflonyddir arnynt neu os cânt eu pryfocio yn fwriadol, ond er ei fod yn boenus, nid yw’r brathiad yn farwol yn aml.

Dosbarthiad: Mae’r wiber i’w chanfod mewn rhannau o Ewrop, Rwsia ac Asia. Maent i’w cael ledled Prydain, ond mae ei dosbarthiad yn ddarniog. Yn Sir Ddinbych maent i’w canfod lle mae cynefin addas, megis Bryniau Clwyd, Coedwig Clocaenog a Hiraethog.

Bygythiadau: Mae’r prif fygythiadau yn cynnwys colli a diraddio cnefin, aflonyddiad gan bobl a chn, a hyd yn oed lladd bwriadol weithiau – er bod hyn yn anghyfreithlon.

Statws: Mae’r rhywogaeth wedi ei gwarchod dan gyfraith y DU ac yn flaenoriaeth ar gyfer cadwraeth ar lefel y DU, Cymru a Sir Ddinbych.

Gwiber fenywaidd gyda golwg dda o’r cannwyll llygad fertigol (Thomas Brown)

Footer

Gwnaed gan Splinter