Navigation

Content

Amddiffyn ein Bioamrywiaeth

Mae effaith dyn ar ein bywyd gwyllt a’n cynefinoedd nawr yn golygu bod angen amddiffyniad y gyfraith er mwyn eu galluogi i oroesi. Mae’r cynnydd dramatig yn y boblogaeth ddynol, ein hangen am dai a chludiant, bwyd a deunyddiau, yn ogylstal â sgil-gynnyrch ein diwydiannau wedi achosi lleihad anferth mewn cynefin a nifer ac ystod rhywogaethau, gan wthio llawer i’r pen draw. Mewn llawer o achosion, nid yw bellach yn bosibl gadael i natur ofalu amdani’i hun.

Mae gan y DU nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth bywyd gwyllt yn amddiffyn cynefinoedd a rhywogaethau, crynodeb o’r rhain sydd i’w gweld ar ein tudalen rhywogaethau a amddiffynnir. Mae’r ddeddfwriaeth hon hefyd wedi caniatáu amddiffyn safleoedd pwysig, penodol, gan warchod cynefinoedd ac anifeiliaid a/neu blanhigion pwysig. Mae’r ddeddfwriaeth hon hefyd yn helpu cyfrannu i’n hymrwymiadau rhywngwladol, gan gynnwys rhoi stop ar golli bioamrywiaeth a diraddiad gwasanaethau ecosystem yn Undeb Ewrop erbyn 2010.

Amddiffynnir holl adar gwyllt a nifer o rywogaethau anifeiliaid a phanhigion gan y Cyfarwyddyd Cynefinoedd, a weithredir trwy Reoliadau Cynefinoedd y DU 2010; a’r Cyfarwyddyd Adar a weithredir trwy Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (fel y’i diwygiwyd) 1981. Dyma sut mae’r DU a gwledydd Ewrop yn cwrdd â’u hymrwymiadau dan amrywiol gonfensiynau rhyngwladol. Maent hefyd yn darparu ar gyfer cyfres o safleoedd amddiffynedig, yn gwarchod mathau o gynefin ac ardaloedd lle mae rhywogaethau a amddiffynnir yn byw. Mae rhywogaethau prin neu gynhenid nad ydynt wedi eu gwarchod gan y Rheoliadau Cynefinoedd, megis y wiwer goch, yn cael eu hamddiffyn dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad ac mae rhai rhywogaethau, megis ceirw, moch daear a morloi yn cael amddiffyniad trwy eu deddfwriaeth eu hunain.

Tra bod y manylion yn ymddangos yn gymhleth, mae prif bwyntiau’r gyfraith sy’n amddiffyn rhywogaethau’n eithaf syml a gellir eu crynhoi fel a ganlyn:

  • Mae lladd, anafu, cymryd, gwerthu neu hysbysebu ar werth yn fwriadol neu’n ddiofal neu brynu anifeiliaid gwyllt sydd wedi eu hamddiffyn yn fwriadol yn erbyn y gyfraith;
  • Mae aflonyddu yn fwriadol neu’n ddiofal ar anifeiliaid gwyllt neu niweidio eu mannau magu neu lochesi hefyd yn erbyn y gyfraith. Mae hyn yn cynnwys aflonyddu sy’n debygol o amharu ar eu gallu i oroesi, cysgu drwy’r gaeaf, mudo, bridio neu atgynhyrchu neu fagu neu ofalu am rai ifanc fel arall.
  • Amddiffynnir holl adar gwyllt, eu nythod a’u hwyau ac mae cosbau arbennig am anafu rhywogaethau prin penodol.
  • Ni cheir hel na gwerthu planhigion gwyllt. Mae codi unrhyw blanhigyn gwyllt yn anghyfreithlon heb ganiatâd perchennog y tir. Ni ddylid hel, dadwreiddio na gwerthu planhigion a amddiffynnir yn arbennig heb drwydded.
  • Mae meddiant unrhyw rywogaeth a amddiffynnir yn erbyn y gyfraith oni ellir dangos ei fod wedi ei gymryd yn gyfreithlon.

Mae rhai achosion lle mae angen i’r pethau uchod ddigwydd ac er mwyn gwneud hyn yn gyfreithlon, rhaid gwneud cais am a chael trwydded. Yn achos datblygu, ceir y rhain gan Lywodraeth Cymru.  Ar gyfer cadwraeth neu unrhyw ddiben arall, rhoddir trwyddedau gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Ym mhob achos, rhaid dangos na ellir osgoi’r weithred anghyfreithlon a bod mesurau digonol yn bodoli i leihau aflonyddiad a lliniaru’r sefyllfa.

Amddiffynnir safleoedd trwy reoli gweithrediadau a allai fod yn niweidiol, ac mae angen gofyn am ganiatâd gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Mae angen hefyd asesu datblygiad, prosiectau a chynlluniau sydd â’r posibilrwydd o gael effaith niweidiol ar nodweddion penodol safleoedd a amddiffynnir i weld os bydd effaith arwyddocaol ar y nodweddion hynny trwy gyfrwng trefn o’r enw Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd. Fel rheol gwneir hyn gan awdurdod cymwys (e.e. Awdurdod Cynllunio Lleol) mewn ymgynghoriad gyda Chyfoeth Naturiol Cymru.

Am wybodaeth bellach ar ddeddfwriaeth bywyd gwyllt, y rhywogaethau y mae’n berthnasol iddynt, safleoedd a amddiffynnir a rhestri o weithrediadau niweidiol posibl, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Footer

Gwnaed gan Splinter