Navigation

Content

Y wiwer goch

Mae’r wiwer goch gynhenid wedi ei gwthio allan o lawer o’i pharth blaenorol gan y wiwer lwyd, ond mae poblogaethau yn aros mewn rhannau o Sir Ddinbych, yn fwyaf nodedig yng nghoedwig Clocaenog.

Wiwer goch (Peter Trimming)Disgrifiad ac adnabod: Y wiwer goch yw’r unig wiwer gynhenid ym Mhrydain. Mae’r lliw hufen ar y bol a’r coch-frown ar y rhannau uchaf yn ei gwahaniaethu o’i chyfnither, y wiwer lwyd a gyflwynwyd o Ogledd America. Mae ganddi glustiau tuswog, cynffon drwchus, llygaid disglair du ac mae’n llai na’r wiwer lwyd.

Cynefin: Gall y wiwer goch fyw mewn coedlannau brasddeiliog a chonifferaidd. Ond ym Mhrydain maent i’w cael mewn coedlannau conifferaidd yn unig – mae’r wiwer lwyd wedi coloneiddio coedlannau brasddeiliog. Mewn coedlannau conifferaidd, ymddengys bod y wiwer lwyd yn colli’r fantais gystadleuol, sy’n caniatáu i’r wiwer goch oroesi.

Olion bwydo wiwer (Russel Wills)Deiet: Mae deiet y wiwer goch yn cynnwys hadau coed yn bennaf (megis moch coed a mes), er y byddant yn bwyta blodau, mwyar, ffwng, rhisgl ac weithiau hyd yn oed adar ifanc a wyau.

Ecoleg ac atgynhyrchu: Mae’r wiwer goch yn adeiladu nythod mawr mewn coed, a ddefnyddir i fridio ac i lochesu. Gall y tymor bridio bara o fis Ionawr i Fedi, ac mae’r wiwer goch yn aml yn bridio ddwywaith y flwyddyn, unwaith yn y gwanwyn ac unwaith eto yn yr haf, yn dibynnu ar faint o fwyd sydd ar gael. Nid yw’r wiwer goch yn gaeafgysgu, ond mae’n storio bwyd pan fo digon ohono yn yr hydref i’w fwyta yn y gaeaf. Creadur y dydd yw’r wiwer goch.

Dosbarthiad: Yng Nghymru a Lloegr, mae’r wiwer goch wedi dirywio’n arwyddocaol ers pan gyflwynwyd y wiwer lwyd, a dim ond ychydig o boblogaethau gweddillol sydd ar ôl. Yn Sir Ddinbych, rydym yn ffodus bod gennym boblogaeth o hyd yng nghoedwig Clocaenog. Yn yr Alban mae mwy ohonynt. Ledled y byd, mae’r wiwer goch i’w chanfod yn Ewrop, Rwsia a gogledd Asia.

Bygythiadau: Y prif fygythiad i’r wiwer goch ym Mhrydain yw’r wiwer lwyd, a gyflwynwyd gan y Fictoriaid. Mae’n gystadleuwr cryfach ac mae hefyd yn cludo firws brech sy’n effeithio’r wiwer goch.

Statws: Mae’r wiwer goch wedi ei gwarchod dan gyfraith y DU ac mae’n rhywogaeth blaenoriaeth ar gyfer camau cadwraeth ar lefel DU, Cymru a Sir Ddinbych.

Footer

Gwnaed gan Splinter