Navigation

Content

Y fursen fawr dywyll

Mae’r pryfyn trawiadol hwn yn treulio’r rhan fwyaf o’i oes dan y dðr fel larfa, cyn ymddangos i dreulio dim ond ychydig o wythnosau fel oedolyn. Mae’n lliwgar iawn, gan roddi’r enw Saesneg priodol arno, sef y ‘beautiful demoiselle’.

Gwryw’r fursen fawr dywyll (Mick Lobb)Disgrifiad ac adnabod: Mae gan y fursen fawr dywyll led adenydd o ryw 6cm a phedair adain sydd ar gau pan fydd yn gorffwys. Mae’r fenyw a’r gwryw yn wahanol o ran golwg: mae gan y gwryw gorff gwyrddlas metalig ac adenydd tywyll, tra bod gan y fenyw gorff gwyrdd ac adenydd brown. Mae’r fursen fawr wych yn debyg ond mae gan y gwryw smotyn mawr ar yr adain yn lle lliw solet ac mae gan y fenyw adenydd gwyrdd.

Cynefin: Mae’r rhywogaeth yn byw mewn nentydd ac afonydd cyflym, gyda thywod mân a swbstradau graean, sy’n aml wedi eu cysgodi gan llystyfiant yn tyfu drosodd.

Deiet: Fel pob gwas y neidr a mursennod mae larfâu’r fursen fawr dywyll yn ysglyfaethwyr brwd, yn bwyta unrhyw beth y medrent ei ddal! Mae’r oedolion hefyd yn ysglyfaethwyr, gan ddal pryfed ar yr adain, gan hela yn defnyddio eu golwg rhagorol.

Ecoleg ac atgynhyrchu: Dyma ond un o dri rhywogaeth gwas y neidr a mursennod ym Mhrydain i arddangos ymddygiad carwriaeth gwirioneddol: mae’r gwryw yn denu’r fenyw i baru gyda’i ehediad arddangos. Caiff wyau eu dodwy ar blanhigion yn y cwrs dwr gan gymryd 14 diwrnod i ddeor. Mae’r larfa yn aros yn y dwr am ddwy flynedd. Pan fydd wedi tyfu yn llawn bydd yn dringo allan o’r dwr ar ddarn o blanhigyn, a dod allan o’r croen larfaol, a all gymryd nifer o oriau, ac sy’n gadael yr anifail mewn perygl o gael ei fwyta. Dim ond am ychydig wythnosau mae’r oedolion yn byw. Yr adeg gorau i’w gweld yw rhwng diwedd Mai a diwedd Awst.

Dosbarthiad: Yn y DU mae’r fursen fawr dywyll i’w chanfod yn bennaf yn ne a gorllewin Lloegr ac yng Nghyrmu. Mae hefyd i’w gweld ledled y rhan fwyaf o Ewrop, Gogledd Affrica a rhannau o Asia. Yn Sir Ddinbych mae i’w chanfod ar nentydd ac afonydd cyflym o gwmpas y sir.

Bygythiadau; Y prif fygythiad sy’n wynebu’r rhywogaeth hwn yw colli cynefin, trwy newidiadau mewn dulliau rheoli tir a chyrsiau dwr, datblygiad a llygredd.

Statws: Nid yw’r rhywogaeth wedi ei gwarchod dan y gyfraith ac nid yw ar hyn o bryd yn flaenoriaeth cadwraeth gan ei bod yn ddigon cyffredin. Mae gwaith yn cael ei wneud i lanhau a gwella ansawdd ein hafonydd a'n nentydd, megis rhaglen Cyfarwyddeb Fframwaith Dwr Asiantaeth yr Amgylchedd, a fydd o fantais i’r rhywogaeth hwn a llawer o rai eraill ledled y DU.

Footer

Gwnaed gan Splinter