Navigation

Content

Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol

Rhan bwysig o Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU oedd sefydlu rhwydwaith o bartneriaethau Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol i weithredu’n lleol, cysylltu â chymunedau, codi ymwybyddiaeth a chefnogi mentrau addysg.   Er bod y rhain yn dilyn arweinyddiaeth y cynlluniau cenedlaethol, maen nhw hefyd yn nodi blaenoriaethau lleol sy’n berthnasol i’w hardaloedd nhw.

Logo Rhwydwaith Bioamrywiaeth Gogledd Ddwyrain CymruGweithredir Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol trwy bartneriaeth ac mae'r broses yn dibynnu ar gyfranogaeth a chydweithrediad pawb, nid cadwraethwyr a thirfeddiannwr yn unig.  Mae busnesau, adrannau’r cyngor a’r cyhoedd erbyn hyn yn cymryd mwy o ran mewn cadwraeth nag erioed o'r blaen.  Yn Sir Ddinbych ‘rydym yn rhan o Rhwydwaith Bioamrywiaeth Gogledd Ddwyrain Cymru, sy'n cynnwys y bedair sir yn yr ardal ac yn cynnwys cynrychiolwyr o’r sefydliadau amgylcheddol gwirfoddol a statudol, arbenigwyr a chofnodwyr lleol ac adrannau o'r awdurdodau lleol.  Mae’n arwain ar gynhyrchu Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Sir Ddinbych ac yn gyfrifol am oruchwylio cyflawni gweithredu ar fioamrywiaeth.  Trwy gyd ymrwymiad a pherchnogaeth y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol, gellir uno a rhannu adnoddau ac ymdrech a gweithredu’r Cynllun yn fwy effeithiol.  Mae gan bartneriaethau’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol hefyd gyfrifoldeb i godi ymwybyddiaeth a’r angen am gadwraeth bioamrywiaeth yn y cyd-destun lleol a darparu cyfleoedd i’r cyhoedd fwynhau a deall eu bioamrywiaeth lleol.  

Ein Dyfodol gyda Bywyd Gwyllt:  Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Sir Ddinbych

Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol

Lansiwyd Ein Dyfodol gyda Bywyd Gwyllt, Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Sir Ddinbych yn 2003 ac mae’n rhoi fframwaith ar gyfer cadwraeth natur yn y sir.  Mae’n beirianwaith i weithredu Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU yn Sir Ddinbych ac i droi blaenoriaethau bywyd gwyllt cenedlaethol yn weithredu lleol.  Mae’n cynnwys rhestr o holl rywogaethau a chynefinoedd â blaenoriaeth leol yn y sir, llawer ohonynt yn flaenoriaethau’r DU a Chymru hefyd.  Trefnir cynlluniau gweithredu trwy Grwpiau Ecosystem Fframwaith Bioamrywiaeth Cymru.  Yr adrannau pwysicaf yw’r Cynlluniau Gweithredu Rhywogaeth a Chynefin unigol sy’n cynnwys y targedau cadwraeth ar gyfer pob rhywogaeth a chynefin a’r gwaith y mae’n rhaid ei wneud i gyrraedd y targedau hynny.  Mae hefyd yn cynnwys nifer o Gynlluniau Gweithredu Pwnc, sy'n sicrhau fod themâu bioamrywiaeth pwysig, megis addysg ac ymwybyddiaeth, yn cael sylw gydol y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol.

Mae Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Sir Ddinbych yn ddogfen sy’n esblygu ac ar hyn o bryd mae’n cael ei adolygu’n unol â chynllun y DU a thargedau a gweithrediadau datganoledig Cymru.  Gellir gweld y cynlluniau gweithredu o'r System Adrodd Gwaith Bioamrywiaeth (BARS), sydd ar y we ac yn yr un modd â Chynllun y DU, mae cynnydd yn erbyn y camau hynny hefyd yn cael ei adrodd yma.

Cliciwch yma i weld Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Sir Ddinbych a’r adroddiadau cynnydd ar BARS.

Adrodd a’r System Adrodd Gwaith Bioamrywiaeth (BARS)

Trwy broses Cynllun Gweithred Bioamrywiaeth y DU, cafodd targedau a gweithrediadau cynllun gweithredu ar gyfer rhywogaethau a chynefinoedd eu cynhyrchu gyda  phartneriaid arweiniol a’u Grwpiau Llywio yn gofalu amdanynt.  Adroddodd yr holl Grwpiau Llywio, ynghyd â’r partneriaethau Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol, ar gynnydd y rhain ym 1999, 2002, 2005 a 2008.  Y System Adrodd Gwaith Bioamrywiaeth (BARS) yw prif beirianwaith casglu gwybodaeth ar waith bioamrywiaeth ar draws y DU.  Ers rownd adrodd 2005 mae’r holl adroddiadau wedi dod trwy’r system hon.

Lansiwyd fersiwn newydd o BARS yn 2012, gyda’r gallu i weld gweith­gareddau bioamrywiaeth ar fap rhyngweithiol. Crëwyd y system ar gyfer Partneriaeth gyfan y DU, i gefnogi gofynion cynllunio, monitro ac adrodd y Cynlluniau Gweithredu ar Fioamrywiaeth cenedlaethol a lleol.  Mae’r cyhoedd yn gallu mynd i’r system ac mae nifer o adnoddau cynhyrchu adroddiadau er mwyn didoli gwahanol ddata ar dargedau a gweithrediadau Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth DU, y wlad neu rai lleol, gan gynnwys rhai Sir Ddinbych, yn ogystal ag adroddiadau ar gyfer rhywogaethau a chynefinoedd.  Gellir mynd ar BARS ar www.ukbars.defra.gov.uk.

Footer

Gwnaed gan Splinter