Navigation

Content

Beth yw Bioamrywiaeth?

Bioamrywiaeth yw’r holl amrywiaeth o fywyd ar y Ddaear - yr holl rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid, eu hamrywiaeth genetig a’r ecosystemau cymhleth y maen nhw’n rhan ohonynt.  Mae’n cynnwys y mwyaf cyffredin yn ogystal a rhai o dan fygythiad gwirioneddol, yn amrywio o goedwigoedd glaw trofannol enfawr a moroedd cynnes sy’n gyforiog o fywyd, i anialwch a thwndra’r Arctig ble mae’r amodau’n galed a dim ond ychydig o blanhigion ac anifeiliaid sy’n gallu goroesi. 

Mae’n wybyddus fod tua 1.9 miliwn o rywogaethau planhigion, anifeiliaid a microbau yn bodoli ar hyn o bryd ond mae rhywogaethau newydd yn cael eu darganfod dros y byd yn gyson – mae gwyddonwyr yn credu y gallai fod 5 – 30 miliwn o rywogaethau mewn bodolaeth!

Mae bioamrywiaeth ymhobman, o’r pryfetyn lleiaf i’r goeden dalaf, mae’n ein cynnwys ni ac, i oroesi, bydd yn dibynnu’n helaeth ar ein gallu ni i ddeall, gwerthfawrogi a gwneud lle iddo. 

Bioamrywiaeth: yr amrywiaeth o fywyd ar y Ddaear. Aethnen ddu (Natural England), Rugiar ddu (Natural England) a chwrel (CCGC) 

Footer

Gwnaed gan Splinter