Navigation

Content

Y forwennol fechan

Mae’r forwennol fechan yn aderyn môr mudol sy’n gwneud y daith hir o Orllewin Affrica i Sir Ddinbych bob blwyddyn i nythu ar yr un darn o ro ar Dwyni Gronant.

Disgrifiad ac adnabod: Y forwennol fechan yw’r lleiaf o’r chwe rhywogaeth morwennol yn y DU. Mae ganddi gorff main llyfn, pen du gyda thalcen gwyn a phig melyn nodedig gyda blaen du iddo. Mae ganddi gynffon fyrrach na’r rhywogaethau morwennol eraill, ac adennydd main gyda lled o 45-55cm. 

Cynefin: Yn y tymor bridio mae’r forwennol fechan yn byw mewn ardaloedd arfordirol gan gynnwys morydau, mornentydd a chilfachau arfordirol. Maent yn nythu ar ynysoedd noethlym, traethau a thraethellau. Unwaith y maent wedi bridio, mae’r adar yn mudo bellteroedd maith i’w cynefin gaeafol sy’n cynnwys mornentydd a gwastadoedd halen llanw.

Deiet: Mae’r forwennol fechan yn bwydo mewn dyfroedd arfordirol bas lle mae’n dal pysgod bychain ac infertebratau. Maent yn hofran uwchben y dwr, weithiau ond ychydig o gentimedrau o ddyfnder, cyn plymio i mewn i ddal y prae.

Morwennol fechan gyda chyw (John Power)

Ecoleg ac atgynhyrchu: Mae’r adar yn dechrau cyrraedd eu maes bridio ym mis Mai. Y gwryw sy’n cychwyn y garwriaeth, gan gyflwyno pysgodyn i’r fenyw. Os yw’n derbyn y cynnig, bydd y pâr yn magu rhwng un a thri o adar ifanc. Mae’r wyau wedi eu cuddio yn dda yn y nyth, sy’n wâl ar y tywod neu’r graean uwchlaw llinell y llanw. Mae’r ddau riant yn eistedd ar yr wyau ac yn bwydo’r ifanc. Erbyn Awst, mae’r gytref wedi gadael ac mae’r adar yn gwneud eu ffordd i’r maes gaeafol yn Affrica. Maent yn byw am 12 mlynedd ar gyfartaledd.

Dosbarthiad: Mae gan y forwennol fechan gynefin eang. Mae’n bridio yn Ewrasia a rhannau o Awstralasia ac yn treulio’r gaeaf yn Ne Ewrop, De Asia, Affrica ac Awstralasia. Yn y DU mae nifer o gytrefi bridio, yn bennaf ar yr arfordir dwyreiniol. Mae’r unig gytref fridio yng Nghymru yn Nhwyni Gronant yn Sir Ddinbych.

Bygythiadau: Y prif fygythiad yw colli cynefin oherwydd datblygu ar hyd yr arfordir. Maent hefyd yn agored iawn i aflonyddiad gan bobl a chwn. Mae ysglyfaethu, llifogydd yn mynd â’r nythod gyda llanw arbennig o uchel ac amodau tywydd gwael yn medru niweidio llwyddiant bridio mewn unrhyw flwyddyn benodol. Yn fyd-eang mae poblogaethau’r forwennol fechan yn dirywio.

Statws: Gwarchodir y forwennol fechan dan gyfraith y DU ac Ewrop, ac mae’n flaenoriaeth ar gyfer camau cadwraeth yn Sir Ddinbych.

Footer

Gwnaed gan Splinter