Navigation

Content

Taith Brenig

Mae Taith Brenig yn llwybr 32 milltir sy’n cael ei hyrwyddo ar gyfer cerddwyr ac mae’n ymdroelli o Gorwen i fyny i Lyn Brenig.

Mae Taith Brenig yn dechrau yn harddwch Dyffryn Dyfrdwy ac mae’n mynd â cherddwyr i rai o’r rhannau tawelaf yn Sir Ddinbych, lle mae llwybrau heddychlon yn nadreddu drwy goedwigoedd naturiol a hyd lethrau serth dyffrynnoedd afonydd. Mae’n dilyn ffyrdd hynafol y porthmyn ac yn mynd heibio i garneddau sy’n hynach fyth, gan lywio ei ffordd drwy Goedwig Clocaenog i ddatgelu golygfeydd syfrdanol o Fryniau Clwyd ym Mhincyn Llys ac o gwmpas Cyffylliog. Mae’n gorffen gyda dringfa gyson ond unig ar hyd Afon Clywedog, gan fynd heibio i ddyrnaid yn unig o dai, i gyrraedd Llyn Brenig wrth y Llwybr Archeolegol. Mae hwn yn safle man claddu o’r Oes Efydd, gyda sawl carnedd ddefodol yn creu ymdeimlad o unigedd yn erbyn cefndir syfrdanol Hiraethog ac Eryri. Fe gwblheir tro hamddenol o gwmpas y llyn drwy gerdded ar draws argae’r Brenig i orffen y daith yn y Ganolfan Ymwelwyr lle cewch chi fwynhau danteithion yn haeddiannol.

Mae Taith Brenig wedi ei farcio gyda chyfeirbwyntiau nodedig sy’n seiliedig ar y carneddi sydd i’w cael ar hyd y ffordd. Mae wedi ei ddylunio i’w gerdded dros 2 neu 3 diwrnod i’r nail gyfeiriad neu’r llall, gyda’r cerddwyr yn aros dros nos mewn llety. Gellir ei ddefnyddio hefyd ar gyfer diwrnod o gerdded, fel sy’n cael ei awgrymu yn y cardiau sy’n cyd-fynd â hyn.

Footer

Gwnaed gan Splinter