Navigation

Content

Eog yr Iwerydd

Mae eog yr Iwerydd yn cael eu trysori gan bysgotwyr ac yn enwog am eu mudiad anodd i fyny afonydd i fannau epilio ac yn ddangosyddion da o amgylchedd iach.

Eogiaid yn neidio (Walter Baxter)Disgrifiad ac adnabod: Mae eog yr Iwerydd yn bysgod mawr, gyda rhai gwryw yn cyrraedd hyd o gymaint â 150cm a rhai benyw yn hyd at 120cm. Mae’r oedolion yn llwyd arian gyda smotiau tywyll. Yn ystod y tymor magu maent yn dod yn fwy lliwgar, yn enwedig y dynion sydd hefyd yn datblygu gên isaf grwm.

Cynefin: Yn y cyfnod morol mae eogiaid yn byw yn y cefnfor agored, gan fyw ar ddyfnder o 2-10m. Mae magu a datblygiad yr iau yn digwydd mewn nentydd ac afonydd glân, sy’n llifo’n sydyn gydag ardaloedd addas o raean ar gyfer epilio.

Deiet: Mae’r oedolion yn bwydo ar amrywiaeth o anifeiliaid di-asgwrn-cefn a physgod llai. Fel eogiaid ifanc maent yn bwydo ar greaduriaid di-asgwrn-cefn dyfrol.

Mae gan eog pâr farciau llorweddol ar eu hochrauEcoleg ac atgynhyrchu: Mae eogiaid yn dechrau eu bywydau fel wyau bychan iawn, a gaiff eu dodwy mewn cloddfeydd bas a gloddir gan y fenyw yng ngraean gwely’r afon. Mae’r eogiaid ifanc yn tyfu ac yn datblygu yn yr afon am sawl blwyddyn, gan yn y pen-draw fynd drwy newidiadau sy’n eu caniatáu i oroesi mewn dr halen a gwneud y daith i lawr yr afon i’r môr. Mae eogiaid yn treulio rhwng un a phedair blynedd yn y môr cyn dychwelyd i’r afon lle cawsant eu geni i epilio eu hunain. Mae’r mudiad i fyny’r afon yn golygu bod yn rhaid i’r eogiaid gyflawni gorchestion anhygoel o ystwythder a chryfder, gan weithiau lamu 3m allan o’r dwr i oresgyn rhwystrau - dyma pryd rydych fwyaf tebygol o’u gweld nhw. Mae mudiad yr eog fel arfer yn digwydd ym misoedd Hydref a Thachwedd. Mae eogiaid yn defnyddio eu synnwyr arogli i ganfod y ffordd i’r afonydd lle cawsant eu geni - weithiau hyd yn oed i’r un rhan o’r afon honno. Ar ôl epilio mae’r rhan fwyaf o unigolion yn marw, ond mae rhai yn goroesi i epilio mewn blynyddoedd i ddod. Mae hyd eu hoes fel arfer rhwng pedair a chwe blynedd, ond weithiau hyd at ddeg.

Dosbarthiad: Ceir eog yr Iwerydd yng ngorllewin a gogledd Ewrop a gogledd ddwyrain Gogledd America. Ym Mhrydain, ceir eog yn bennaf mewn afonydd gorllewinol a gogleddol, gyda’r Alban yn arbennig o bwysig. Yn Sir Ddinbych ceir eogiaid yn afonydd Dyfrdwy a Chlwyd a’u llednentydd fel Alyn.

Bygythiadau: Mae llygredd ac addasiadau i afonydd epilio yn fygythiadau sylweddol i eogiaid yr Iwerydd. Gall rhwystrau ffisegol ar afonydd fel coredau ac argaeau atal eu mudiad. Mae newidiadau i arferion ffermio wedi arwain at ddirywiad mewn mannau epilio a chynefinoedd i’r ifanc. Mae’r bygythiadau ar y môr yn cynnwys ymelwa gan bysgodfeydd masnachol ac effeithiau newid hinsawdd.

Statws: Diogelir y rhywogaeth hon dan gyfraith y DU ac Ewrop ac mae’n flaenoriaeth ar gyfer gweithredu cadwraeth ar lefel y DU a Chymru. Mae’n nodwedd gymhwyso i Ardal Gadwraeth Arbennig Dyfrdwy a Llyn Tegid.

Footer

Gwnaed gan Splinter