Navigation

Content

Briwlys y galchfaen

Y planhigyn cenedlaethol brin hwn yw blodyn y sir yn Sir Ddinbych.

Briwlys y galchfaen (Sarah Bird / Sw Caer)Disgrifiad ac adnabod: Mae gan y planhigyn fodau pinc-goch gyda llygaid melyn, sydd wedi eu trefnu ar sbigyn blodau, 40-80cm o daldra. Mae’r dail gwyrdd yn feddal ac yn flewog ac yn hirgrwn. Mae’r planhigyn yn perthyn i’r teulu marddanhadlen.

Cynefin: Mae’n tyfu ar bridd calch sy’n draenio’n rhwydd, fel rheol mewn llennyrch coedlannau. Mae hefyd i’w weld ar ymyl y ffordd.

Ecoleg ac atgynhyrchu: Mae’n blodeuo o fis Mehefin i Awst. Mae’n lluosflwydd, gyda phlanhigion unigol yn goroesi am nifer o flynyddoedd. Mae gaeafau oer yn ysgogi egino hadau. Mae hadau yn medru goroesi dan y pridd am flynyddoedd cyn egino, er enghraifft ar ôl troi’r tir.

Dosbarthiad: Mae briwlys y galchfaen i’w ganfod yn Ewrop, ond yn hysbys ar ddim ond tri safle yn y DU, sef Swydd Caerloyw, Bwrdeistref Sirol Conwy a Sir Ddinbych. Y safle yn Sir Ddinbych yw Coed Cil-y-groeslwyd ger Rhuthun, lle cofnodwyd y rhywogaeth am y tro cyntaf ym 1972.

Bygythiadau: Mae rhywogaethau gyda phoblogaethau bychan fel hyn yn agored iawn i niwed oherwydd gall digwyddiadau ar hap effeithio’r boblogaeth gyfan. Mae bygythiadau yn cynnwys colli a diraddio cynefin, er enghraifft diffyg rheoli coedlannau yn arwain at golli llennyrch a llai o olau yn dod trwodd. Gall newid yn yr hinsawdd hefyd fygwth y briwlys hwn gan ei fod angen gaeafau oer a hafau sych a chynnes, sy’n debygol o ddigwydd yn llai aml yn y dyfodol.

Statws: Caiff y rhywogaeth ei gwarchod dan gyfraith y DU ac mae’n flaenoriaeth cadwraeth yn Sir Ddinbych. Amddiffynnir Coed Cil-y-groeslwyd fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Footer

Gwnaed gan Splinter