Navigation

Content

Llygoden bengron y dwr

Yn anffodus llygoden bengron y dwr yw’r mamal sy’n dirywio gyflymaf ym Mhrydain, gyda 90% o boblogaeth y DU wedi ei golli ers y 1980au.

Gall llygoden bengron y dðr fwydo ar 200 o wahanol blanhigion (Peter Trimming)Disgrifiad ac adnabod: Llygoden bengron y dwr yw’r fwyaf o lygod llai Prydain, gyda chorff o ryw 14-22cm mewn hyd. Mae’r llygoden bengron goch a llygod maes yn llawer llai, ac felly mae llygoden bengron y dwr aeddfed yn fwyaf tebygol o gael ei chymysgu gyda’r llygoden Ffrengig (fel ‘Ratty’ yn ‘Wind in the Willows’, a oedd mewn gwirionedd yn llygoden bengron y dwr). Maent yn wahanol i lygod Frengig oherwydd bod ganddynt gynffonau blewog, clustiau llai, crwn a wyneb mwy fflat. Maent yn gadael olion penodol yn y maes, a gellir eu defnyddio i weld os oes llygoden bengron y dwr yn yr ardal. Mae’r rhain yn cynnwys baw, olion bwydo ac olion traed.

Cynefin: Mae llygoden bengron y dwr yn lled-acwatig ac mae’n well ganddynt safleoedd gyda dwr sy’n symud yn araf neu ddwr llonydd, gyda digon o llystyfiant ar yr ochrau i ddarparu bwyd a lloches. Maent i’w gweld ar y gwastadeddau a’r ucheldiroedd.

Deiet: Mae llygoden bengron y dwr yn bennaf yn llysysol, gan fwyta amrywiol blanhigion (mae mwy na 200 o rywogaethau planhigion wedi eu cofnodi). Mae llystyfiant ar ymyl y dwr, megis gwair, hesg a chyrs bwysicaf yn neiet y llygoden hon. Caiff gwreiddiau, bylbiau a chloron eu bwyta yn y gaeaf.

Ecoleg ac atgynhyrchu: Mae llygoden bengron y dwr yn byw mewn system o dyllau, yn aml gyda mynediad o dan y dwr er mwyn dianc rhag ysglyfaethwyr. Maent hefyd yn adeiladu nythod uwchben y ddaear, er engraifft mewn cyrs, os nad oes torlannau addas i’w cloddio. Maent yn cael rhwng dwy a phum torllwyth y flwyddyn, gan eni pump i wyth o rai ifanc bob tro, ond mae cyfraddau ysglyfaethu yn uchel ac ar gyfartaledd dim ond pum mis maent yn byw.

Dosbarthiad: Ledled llawer o Brydain, roedd llygoden bengron y dwr yn gyffredin. Maent i’w gweld o hyd mewn llawer o’u hardaloedd hanesyddol, ond mae llawer o’r poblogaethau yn dirywio a hyd yn oed yn diflannu. Maent i’w cael ar draws llawer o Ewrop a rhannau mawrion o Rwsia.

Top chwith yn nhrefn y cloc: nyth, tomen fwydo, baw ac ôl troedBygythiadau: Y prif fygythiad i lygoden bengron y dwr yw colli, darnio a diraddio eu cynefin, ac ysglyfaethu gan y minc Americanaidd, rheibiwr sydd wedi ei gyflwyno ac sy’n medru mynd i lawr twneli’r llygoden.

Statws: Mae llygoden bengron y dðr wedi ei gwarchod yn y DU ac mae’n rhywogaeth blaenoriaeth ar gyfer gweithredu ar lefel DU, Cymru a Sir Ddinbych.

Footer

Gwnaed gan Splinter