Navigation

Content

Madfall ddwr gribog

Y madfall ddwr gribog yw’r mwyaf, a’r prinaf, o’r tair madfall ym Mhrydain. Maent wedi eu gwarchod dan y gyfraith oherwydd dirywiad yn y boblogaeth mewn blynyddoedd diweddar.

Madfall ddwr gribog wrywaidd gyda chrib fawr (James Grundy)Disgrifiad ac adnabod: Mae madfallod dwr cribog yn tyfu hyd at 15cm o hyd ac yn drymach na’r ddau rywogaeth madfall arall – y llyfn a'r palfog. Mae eu croen yn edrych fel pe bai dafadennau arno ac yn frown tywyll neu’n ddu yn bennaf, ond mae’r bol yn oren llachar gyda smotiau tywyll. Mae gan y gwryw grib ar y cefn a’r gynffon yn ystod y tymor bridio.

Cynefin: Fel amffibiaid, mae’r madfall ddðr gribog angen dwr ffres i fridio. Yn y tymor bridio maent yn byw mewn dwr llonydd, ac mae’n well ganddynt byllau mawr gyda digon o lystyfiant a dim pysgod. Maent wedi bridio mewn mannau mwy anarferol megis tanciau dwr concrid a phyllau nofio nad ydynt yn cael eu defnyddio, ynghyd â chwareli boddedig a safleoedd diwydiannol. Y tu allan i’r tymor bridio me’r madfallod yn symud i gynefin tiriogaethol sy’n cynnwys glaswelltir bras a choedlannau sy’n agos at y pyllau bridio.

Yn ystod y cyfnod tiriogaethol mae’r madfallod yn colli eu cribau (H Krisp)Deiet: Mae’r madfallod dwr cribog yn bwydo ar infertebratau, fel pryfed a phryfed genwair, naill ai ar dir neu yn y dwr yn dibynnu ar adeg y flwyddyn. Maent hefyd yn cymryd penbyliaid, llyffantod ifanc a madfallod eraill. Mae larfâu (newydd ddeor) yn bwydo ar organebau bychan yn y dwr.

Ecoleg ac atgynhyrchu: Mae bridio yn digwydd yn y gwanwyn, pan fydd y madfallod yn dod at ei gilydd i baru. Mae’r gwryw yn perfformio arddangosfa i ddenu benyw. Ar ôl paru, mae’r fenwy yn dodwy wyau fesul un ar ddail dan y dwr, ac mae’n eu plygu drosodd i amddiffyn yr wy. Mae’r larfa yn dod allan o’r pwll rhwng diwedd Awst a chanol Hydref ac yn treulio dwy i dair blynedd yn aeddfedu ar y tir. Mae’r rhywogaeth yn byw yn eithaf hen, gyda rhai unigolion yn cyrraedd eu harddegau. Nid yw’r rhan fwyaf o’r madfallod dwr cribog yn mynd mwy na rhyw 250m ymhellach na’r pwll bridio yn eu hoes.

Mae patrwm y bol yn wahanol ym mhob unigolyn (Erik Paterson)Dosbarthiad: Maent wedi eu dosbarthu ar draws gogledd a chanol Ewrop a gorllewin Rwsia. Yn y DU maent i’w canfod yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae Gogledd-ddwyrain Cymru yn cynnal poblogaethau pwysig o’r madfallod dwr cribog. Yn Sir Ddinbych mae’r rhywogaeth wedi ei gwasgaru o gwmpas y sir, gyda phoblogaethau o gwmpas Trefnant, Llanelwy, Bodelwyddan, Rhuddlan, y Rhyl ac ym Mryniau Clwyd o gwmpas Maeshafn.

Bygythiadau: Y prif fygythiad sy’n wynebu’r madfallod hyn yn y DU yw colli cynefin – bridio a thiriogaethol. Mae llawer o byllau yng nghefn gwlad ehangach wedi eu colli, naill ai trwy esgeulustra neu lenwi bwriadol. Mae newidiadau mewn arferion amaethyddol wedi diraddio cynefin diriogaethol, ac mae pyllau mewn perygl o lygredd. Mae stocio pysgod mewn pyllau hefyd yn broblem gan fod larfâu madfallod yn cael eu hysglyfaethu gan bysgod. Gan fod llawer o fadfallod dðr cribog yn byw yn agos at aneddiadau, mae datblygiadau trefol wedi cael effaith ar gynefin y madfall.

Statws: Mae’r rhywogaeth wedi ei gwarchod dan gyfraith y DU ac Ewrop ac mae’n flaenoriaeth ar gyfer cadwraeth ar lefel DU, Cymru a Sir Ddinbych.

Footer

Gwnaed gan Splinter