Navigation

Content

Prosiectau Bioamrywiaeth

Boed yn anifail, yn blanhigyn, ffwng neu facteria, mae gan bob rhywogaeth rôl bwysig i’w chwarae yn yr ecosystem. Yn aml, gall rheoli un rhywogaeth fod yn fuddiol i’r lleill sy’n rhannu’r gynefin honno. Dyma pam y mae prosiectau fel y rhai a ymgymerir gan Wasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych a’n partneriaid yn hanfodol i oriesiad rhai o’n rhywogaethau cynhenid gwerthfawr.

Mae’r tudalennau hyn yn cynnwys gwybodaeth ar rai o’n prosiectau. Defnyddiwch y dolennau ar y chwith i ddysgu am yr hyn rydym yn ei wneud i warchod ein cynefinoedd naturiol a’n rhywogaethau. Mae llawer o’n prosiectau yn dibynnu ar gefnogaeth gwirfoddolwyr a phartneriaethau cryfion gyda thirfeddianwyr a rheolwyr tir.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth ar unrhyw brosiect a restrir yma, neu os hoffech chwarae rhan, cysylltwch â’r tîm bioamrywiaeth trwy ebost neu ffoniwch 01824 708263.

 Madfall y twyni (Mick Brummage), Twyni Gronant, dyfrgi, merywen (Sarah Bird), pathew (Angela Smith), ffromlys yr Himalaya

Footer

Gwnaed gan Splinter