Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych
Cysylltiadau perthnasol
- Cyngor Cefn Gwlad Cymru
- Comisiwn Coedwigaeth
- Cadw
- Bryniau Clwyd
- Cyngor Sir Ddinbych
- Partneriaeth y Grug a'r Caerau
Digwyddiadau i ddod
Grug a Chaerau Penycloddiau
20.05.2012
Ffens Foel Fenlli
21.05.2012
Newyddion Diweddaraf
Diogelu adar sy'n nythu: peidiwch â thorri'r gyfraith!
29.03.2012
Perllannau Traddodiadol yng Nghymru: Galw am Wirfoddolwyr
19.03.2012
Tudalen Gweplyfr
Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych
Pwy ydi Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych a sut allaf i gysylltu â nhw?
O dwyni tywod gwyntog Gronant ar hyd yr arfordir, dros grib rugog Moel Famau, ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd i Ddyffryn dramatig afon Dyfrdwy, mae Sir Ddinbych wedi ei bendithio â thirwedd amrywiol a thrawiadol.
Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych yn dîm deinamig sy’n ymdrechu i wella a hyrwyddo’r dirwedd arbennig yma, ei bywyd gwyllt a’i threftadaeth. Rydym yn rheoli dros 32 o Safleoedd Cefn Gwlad, yn cynnwys 2 Barc Gwledig a 3 Gwarchodfa Natur Leol fel mannau gwerthfawr i fywyd gwyllt ffynnu ac i chi eu fforio a’u mwynhau.
Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith a wnawn ni wedi ei adeiladu ar bartneriaethau cadarn â chymunedau, gwirfoddolwyr, ffermwyr a pherchnogion tir yn ogystal â sefydliadau eraill - fel Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, a Cadw - pob un ohonyn nhw â nod cyffredin o wella ein hamgylchedd a’i gwneud yn fwy hygyrch.
Mae yna ddigon o gyfleoedd i chi allu cael mwy o fudd o gefn gwlad Sir Ddinbych. Bob blwyddyn fe fyddwn yn cynhyrchu rhaglen ffantastig o ddigwyddiadau o’r enw O Gwmpas. Mae’r llyfryn hwn sydd am ddim yn orlawn o ddigwyddiadau i’r teulu, teithiau tywys a phrosiectau ymarferol sy’n rhoi pethau cyffrous i chi eu gwneud a lleoedd ardderchog i ymweld â nhw er mwyn i chi allu manteisio’n llawn ar Gefn Gwlad ffantastig Sir Ddinbych.
Hefyd rydyn ni’n cynhyrchu Rhaglen Wirfoddoli sy’n orlawn o amrywiaeth o ddigwyddiadau ymarferol o godi waliau cerrig sychion i losgi grug. Mae gennym dros 70 o wirfoddolwyr a fydd yn dod yn rheolaidd i gynorthwyo gyda phob mathau o weithgareddau - mae croeso i unrhyw un ddod i roi cynnig arni.
Mae ein tîm ag ystod eang o arbenigedd ac fe allan nhw gynnig cyngor yn y meysydd canlynol:-
- Bioamrywiaeth
- Coed a Gwrychoedd
- Daeareg
- Archeoleg
- Mynediad a Hamdden
- Prosiectau Cymunedol
- Rheoli Tir
Mae hyn i gyd yn digwydd ar garreg eich drws felly beth am gysylltu â ni
Rhifau cyswllt yn eich ardal chi:
Gogledd Sir Ddinbych – Pwll Brickfields – Y Rhyl - 01745 356197
AHNE Bryniau Clwyd – Parc Gwledig Loggerheads – 01352 810614
De Sir Ddinbych – Y Capel - Llangollen – 01978 869618
Rhuthun – yr Hen Garchar – 01824 708261