Navigation

Content

Grugiar ddu

Mae’r grugiar ddu yn aderyn hela sydd wedi gweld dirywiad mawr yn y boblogaeth yng Nghymru. Mae’r niferoedd nawr yn cynyddu’n araf trwy weithio gyda phorwyr lleol ac annog technegau i reoli’r cynefinoedd ucheldirol yn fwy ffafriol.

Gwryw y grugiar ddu yn arddangos (Natural England)Disgrifiad ac adnabod: Mae’r gwryw yn ddu i gyd, gyda llewych glas iddo. Mae ganddynt dagellau coch uwchben eu llygaid, bariau gwyn ar yr adennydd a phlu gwyn llachar o dan y gynffon. Mae’r fenyw yn llai amlwg gyda phlu llwydfrown, a thagelli llai uwchben y llygaid.

Cynefin: Mae’r grugiar ddu yn dibynnu ar fosäig o gynefinoedd ucheldirol gan gynnwys gweundir, ffermdir a chorsydd, gyda choed gwasgaredig neu’n agos at ardaloedd o goedwigaeth.

Deiet: Mae deiet y grugiar ddu yn dibynnu ar amser y flwyddyn. Mae llus a grug yn blanhigion bwyd pwysig. Yn y gwanwyn caiff y blagur a’r egin eu bwyta, tra yn yr haf mae hadau brwyn a hesg yn bwysig hefyd. Mae’r mwyar yn cael eu bwyta yn yr hydref a’r gaeaf, tra bod y cywion yn cael eu bwydo ar bryfetach a phryfed cop.

Ecoleg ac atgynhyrchu: Mae’r gwrywon yn cystadlu gyda’i gilydd, ac am sylw’r benwyod, yn ystod y cyfnod arddangos. Yn y gwanwyn, mae’r gwryw yn denu’r fenyw gyda chyfres o alwadau ac arddangosfeydd. Gan y gwrywon mwyaf goruchafol fydd y mannau gorau yn y safle arddangos a hwy fydd yn paru gyda’r nifer fwyaf o fenywod. Ar ôl paru, nid oes cysylltiad parhaol rhwng y gwrywon a’r benywod. Bydd y fenyw yn dodwy rhwng 6 a 13 o wyau mewn gwâl fwsoglyd yn y grug, a chanddi hi mae’r cyfrifoldeb am fagu’r ifanc.

Darlun o’r grugiar ddu, gwryw a benyw gan yr awdur a’r arlunydd Edward LearDosbarthiad: Mae gan y grugiar ddu gynefin eang, gan gynnwys rhannau o Rwsia, Asia, gogledd Ewrop a’r Alpau. Yn y DU mae’r grugiar ddu i’w chanfod yn ucheldiroedd Cymru, y Penwynion a'r Alban. Yn Sir Ddinbych mae’r grugiar ddu i’w gweld mewn amrywiol ardaloedd ucheldirol gan gynnwys Bryniau Clwyd, Rhosydd Llandegla a Mynydd Llandysilio.

Bygythiadau: Mae poblogaeth fyd-eang y grugiar ddu yn gostwng ac mae ei chynefin yn lleihau. Un rheswm am hyn yw colli a diraddio ei chynefin, er enghraifft trwy or-bori a dwysád amaethyddol. Yn Sir Ddinbych, un o’r prif broblemau fu diffyg pori a rheolaeth arall ar y gweundir, sydd wedi arwain at ddirywiad yn addasrwydd y gynefin. Mae’r grugiar ddu angen amrywiaeth o blanhigion ifanc ac aeddfed ar y rhostir ar gyfer lloches a bwyd, sy’n galw am reolaeth megis pori a llosgi.

Statws: Mae’r grugiar ddu yn rhywogaeth blaenoriaeth ar gyfer camau cadwraeth ar lefel y DU, Cymru a Sir Ddinbych.

Footer

Gwnaed gan Splinter