Navigation

Content

Misglen dwr croyw

Mae’r fisglen dwr croyw yn fath o folwsg sydd i’w chanfod mewn systemau afonydd glân. Maent yn medru byw yn hir iawn, am fwy na 120 o flynyddoedd!

Misglod dwr croyw (Natural England)Disgrifiad ac adnabod: Mae’r fisglen dwr croyw yn folwsg deufalf, sy’n golygu bod ganddi gragen gyda dwy hanner golynnog. Mae’r anifail ei hunan yn un corff meddal ac yn cael ei warchod gan y gragen, y gellir ei chau. Mae’n edrych yn debyg i fisglen y môr, ond mae ganddi gragen mwy trwchus. Mae’n mesur 12-15cm o hyd.

Cynefin: Mae’r rhywogaeth yn byw mewn nentydd ac afonydd sy’n llifo’n gyflym, gyda digon o ocsigen a heb eu llygru. Maent yn byw wedi eu rhannol gladdu yn y tywod a’r graean ar wely’r afon.

Deiet: Fel pob misglen, mae’r rhain yn fwydwyr hidlo. Maent yn bwydo ar ddarnau bychan y maent yn eu hidlo allan o’r dwr.

Ecoleg ac atgynhyrchu: Mae gan y fisglen dwr croyw gylch bywyd hynod, sy’n dibynnu ar bysgod yn y teulu salmonid (eog a brithyll). Mae atgynhyrchu yn dechrau pan fydd y fisglen wrywaidd yn gollwng sberm i’r dwr yn gynnar yn yr haf, sy’n cael ei anadlu i mewn gan y fenyw ac yn ffrwythloni ei hwyau. Pan fydd yr wyau wedi datblygu maent yn cael eu rhyddhau fel larfâu bychan o’r enw ‘glochidia’. Mae rhai o’r rhain yn medru glynu eu hunain wrth grogennau salmonida ifanc, lle maent yn datblygu yn yr amgylchedd cyfoethog mewn ocsigen tan y gwanwyn canlynol pan fyddant yn syrthio i ffwrdd ac yn tyllu i mewn i wely’r afon i dyfu’n oedolion. Mae’n cymryd 12 mlynedd i fisglen dwr croyw ddod i aeddfedrwydd rhywiol. Nid yw’n ymddangos bod y cylch bywyd rhyfedd hwn yn effeithio’r pysgod yn andwyol.

Dosbarthiad: Canfyddir y fisglen dwr croyw mewn rhannau o Ewrop, Rwsia a dwyrain Gogledd America. Yng ngogledd a gorllewin Prydain roeddynt i’w canfod yn eang, ond bellach dim ond un poblogaeth hyfyw sydd yng Nghymru ac un yn Lloegr. Ucheldiroedd yr Alban yw’r cadarnle olaf sydd ar ôl ar gyfer y rhywogaeth hwn yn Ewrop. Yn Sir Ddinbych mae’r fisglen dðr croyw yn goroesi yn Afon Dyfrdwy, ond nid yw’r boblogaeth yn hyfyw gan nad yw’r misglod yn atgynhyrchu.

Bygythiadau: Mae addasu a diraddio cynefinoedd dwr ffres wedi cyfrannu tuag at ddirywiad y fisglen. Mae’r rhai ifanc yn arbennig o sensitif i ostyngiad yn ansawdd y dwr, sy’n mynd beth o’r ffordd tuag at esbonio pam nad oes rhai ifanc mewn rhai ardaloedd. Mae diffyg misglod ifanc yn golygu bod rhai poblogaethau yn cynnwys unigolion aeddfed yn unig, ac yn y pen draw byddant yn diflannu wrth i’r rhain farw. Gan fod cylch bywyd y fisglen dwr croyw yn dibynnu ar bysgod salmonid, bydd unrhyw beth sy’n lleihau poblogaethau eog a brithyll hefyd yn effeithio’r misglod. Yn hanesyddol roedd y misglod hefyd yn cael eu cynaeafu am eu perlau.

Statws: Mae’r rhywogaeth wedi ei rhestru fel un Mewn Perygl ar Restr Goch IUCN. Mae wedi ei gwarchod dan gyfraith y DU ac Ewrop ac mae’n flaenoriaeth cadwraeth ar lefel y DU, Cymru a Sir Ddinbych.

Footer

Gwnaed gan Splinter