Navigation

Content

Llyffant y twyni

Mae’r amffibiad prin hwn i’w weld ar nifer fechan iawn o safleoedd yng Nghymru, gan gynnwys Twyni Gronant yn Sir Ddinbych.

Disgrifiad ac adnabod: Mae gan lyffant y twyni groen brown dafadennog gyda stribed felen amlwg i lawr y cefn. Mae ychydig yn llai na’r llyffant cyffredin ac mae’n tueddu i gerdded neu redeg yn hytrach na neidio oherwydd bod ei goesau cefn yn fyrrach.

Mae gan lyffant y twyni stribed felen lachar i lawr eu cefnau.Cynefin: Gall llyffant y twyni fyw ar dwyni tywod yr arfordir, morfeydd heli a rhostir. Mae’n well ganddynt gynefin o bridd tywodlyd ysgafn, gyda llystyfiant agored byr a phyllau dr ffres bas ar gyfer bridio. Yn Sir Ddinbych maent i’w canfod mewn twyni tywod.

Deiet: Mae deiet llyffant y twyni yn cynnwys infertebratau, megis gwrachod lludw, pry cop a chwilod. Mae’r penbyliaid yn bwyta planhigion y dwr.

Ecoleg ac atgynhyrchu: Mae llyffant y twyni yn gyffredinol yn anifail y nos. Ar nosweithiau yn y gwanwyn mae’r gwryw yn gwneud swn cras uchel i ddenu’r fenyw. Mae’r fenyw yn dodwy wyau fel llinynnau o sil mewn dwr bas, sy’n deor ar ôl rhyw wythnos. Mae'r penbyliaid yn tyfu’n gyflym yn y dwr cynnes ac yn dod allan o’r pyllau fel llyffantod bach mewn cyn lleied â chwech i wyth wythnos. Mae’n cymryd rhyw dair i bedair blynedd iddynt aeddfedu’n oedolion. Mae’r pyllau a ddefnyddir ar gyfer bridio fel rheol yn sychu yn yr haf. Mae hyn yn fanteisiol i lyffant y twyni gan ei fod yn lleihau nifer y creaduriaid ysglyfaethus megis pysgod a larfâu gwas y neidr, sydd angen dwr drwy gydol y flwyddyn i oroesi. Yn ystod tywydd poeth mae’r llyffantod yn turio i mewn i’r tywod i amddiffyn eu hunain rhag sychu allan, a hefyd y defnyddio’r tyllau hyn i aeafgysgu.

Llyffnt ifanc bachDosbarthiad: Mae dosbarthiad llyffant y twyni wastad wedi bod yn gyfyngedig ym Mhrydain, gan fod y rhywogaeth ar ymyl ei gynefin. Mae hefyd i’w ganfod yng ngorllewin a gogledd Ewrop, gyda’r niferoedd uchaf ar benrhyn Iberia. Ailgyflwynwyd y rhywogaeth i Sir Ddinbych yn Nhwyni Gronant a chynefin cyffiniol ar arfordir Sir y Fflint, ar ôl mynd yn ddiflanedig yn lleol.

Bygythiadau: Mae'r rhywogaeth wedi ei cholli o fwy na 75% o’i safleoedd blaenorol yn y ganrif ddiwethaf, yn bennaf oherwydd colli cynefin. Collwyd ardaloedd mawr o dwyni tywod trwy ddatblygiad, gan gynnwys yng Ngogledd Cymru.

Statws: Mae llyffant y twyni wedi ei warchod dan gyfraith y DU ac Ewrop ac yn flaenoriaeth ar gyfer cadwraeth ar lefel y DU, Cymru a Sir Ddinbych. 

Footer

Gwnaed gan Splinter