Navigation

Content

Y llysywen Ewropeaidd

Y llysywen Ewropeaidd yw’r unig bysgodyn yn Ewrop sy’n mudo o afonydd i’r môr i silio. Am lawer o flynyddoedd, mae’r rhywogaeth hwn wedi bod yn destun dirgelwch mawr, a dim ond nawr y mae gwyddonwyr yn medru deall ei fywyd rhyfedd.

Gall llyswennod Ewropeaidd oroesi allan o’r dr am gyfnodau o amser (Asiantaeth yr Amgylchedd)Disgrifiad ac adnabod: Mae’r llysywen Ewropeaidd yn bysgodyn hir. Mae ganddo esgyll dwyfronnol bychan, cen bach iawn yn ei groen, a safn waelod hirach na’r uchaf. Dyma’r unig fath o lysywen a ganfyddir yn y DU.

Cynefin: Mae’r cynefinoedd a ddefnyddir gan lysywod yn newid trwy eu bywydau. Yn y DU, fe’u ceir mewn dyfroedd arfordirol, morydau, afonydd a nentydd. Medrent oroesi allan o’r dwr a chroesi dros y tir rhwng cyrff dwr.

Deiet: Fel larfa, mae’r llysywen yn bwydo ar blancton microsgopig, ac fel oedolion sy’n aeddfed yn rhywiol maent yn rhoi’r gorau i fwydo yn llwyr. Mae llysywod sy’n aeddfedu yn bwydo ar bysgod ac infertebratau yn yr afonydd.

Ecoleg ac atgynhyrchu: Mae gan y llysywen Ewropeaidd gylch bywyd difyr, sy’n cychwyn a gorffen ym Môr Sargasso yng ngorllewin y Môr Atlantig. Mae’r larfâu, a elwir yn ‘leptocephalli’, yn treulio tair blynedd yn arnofio fel plancton ac yn cael eu cludo gan Lif y Gwlff i arfordir Ewrop. Yma, maent yn newid yn ‘lysywod gwydr’ tryloyw ac yn mynd i’r morydau ar lanw’r gwanwyn. Maent yn mudo i fyny i ddr ffres fel llyswennod ifanc, rhyw 5cm o hyd. Mae’r llyswennod ifanc yn teithio trwy systemau’r afonydd lle maent yn treulio hyd at 20 mlynedd yn aeddfedu, cyn gwneud y daith yn ôl i lawr yr afon ac ar draws yr Atlantig. Mae’r llysywod yn newid i addasu i’r amgylchfyd morol ac mae eu crwyn yn mynd yn lliw arian. Yn y môr nid ydynt yn bwydo, ond yn dibynnu ar ynni wedi ei storio i gwblhau’r daith 4000 milltir i’r dyfroedd silio. Ar ôl silio bydd y llysywen yn marw.

Dosbarthiad: Mae llyswennod Ewropeaidd i’w cael ledled Ewrop, rhannau o Rwsia a Gogledd Affrica, mewn afonydd sy'n draenio i Fôr y Canoldir, Môr y Gogledd a’r Môr Baltig.

Bygythiadau: Mae poblogaethau llyswennod Ewropeaidd wedi gostwng yn fawr iawn yn y 30 mlynedd diwethaf – er enghraifft mae poblogaeth y llyswennod gwydr wedi gostwng fwy na 90% ers 1980. Fodd bynnag, nid yw’r rhesymau y tu cefn i hyn wedi eu deall yn dda iawn. Mae’n debygol bod cyfuniad o ffactorau yn gyfrifol gan gynnwys colli a diraddio cynefin, rhwystrau mewn afonydd (e.e. argaeon), gorbysgota a newid yn yr hinsawdd.

Statws: Mae’r llysywen Ewropeaudd wedi ei rhestru fel un Mewn Perygl Difrifol ar Restr Goch yr IUCN ond nid yw wedi ei gwarchod dan y gyfraith. Mae’n flaenoriaeth gadwraeth ar lefel  y DU a Chymru.

Footer

Gwnaed gan Splinter