Navigation

Content

Heboglys Cymreig

Mae’r heboglys Cymreig yn flodyn yn nheulu llygad y dydd, sydd ond i’w ganfod yng Nghymru. Cafodd ei gofnodi am y tro cyntaf yn Sir Ddinbych ar ddechrau’r 20fed ganrif, ond ni chafodd ei gofnodi eto tan 1988.

Disgrifiad ac adnabod: mae gan yr heboglys Cymreig flodau melyn a dail gwyrdd-las danheddog â smotiau arnynt. Mae dros 400 rhywogaeth gwahanol yn y genws Hieracium ym Mhrydain, ac maent oll yn debyg iawn felly gall fod yn anodd adnabod rhywogaethau unigol.

Mae hadau wedi eu hadneuo yng Nghronfa Hadau’r Mileniwm ac mae’n cael eu tyfu yng Ngerddi Botanegol Cenedlaethol Cymru (Tim Rich / Amgueddfa Genedlaethol Cymru)Cynefin: Mae’r rhywogaeth hwn yn tyfu ar siliau creigiog. Mae’n well ganddo ardaloedd agored heb lawer o lystyfiant arall yn cystadlu.

Ecoleg ac atgynhyrchu: fel heboglysiau eraill, mae’n lluosflwydd. Mae’r prif gyfnod blodeuo rhwng Mehefin a Gorffennaf ond gall flodeuo eto ym mis Medi. Mae’n atgynhyrchu’n anrhywiol heb fffwythloniad, ac felly nid oes angen peillio i gynhyrchu hadau. Gelwir hyn yn apomicsis. Pan fydd yr hadau yn aeddfed mae pen y blodyn yn agor i ryddhau’r hadau, sy’n cael eu gwasgaru gan y gwynt (yn debyg i ddant y llew).

Dosbarthiad: Mae’r heblogys Cymreig i’w ganfod yng Nghyrmu yn unig, ac ar dri safle’n unig. Mewn arolwg o’r safleoedd hyn ym 1998, cafwyd bod un o’r poblogaethau, ger Treorci yng Nghymoedd De Cymru, wedi diflannu mae’n debyg oherwydd cwymp carreg, ond fe’i canfuwyd ar y ddau safle arall – Y Gogarth ger Llandudno a Chreigiau Eglwyseg ger Llangollen yn Sir Ddinbych. Yng Nghreigiau Eglwyseg dyma’r tro cyntaf i’r rhywogaeth gael ei gofnodi ers 1907. 

Bygythiadau: mae’r heboglys Cymreig yn agored i niwed oherwydd ei boblogaethau bychain a’i ddosbarthiad prin. Serch hynny, nid yw erioed wedi bod yn eang ac nid yw’r poblogaethau presennol mewn unrhyw berygl o ddiflaniad ar hyn o bryd. Mae bygythiadau posibl yn cynnwys dringwyr yn clirio mannau cydio ar gyfer dwylo, prysgwydd yn ymledu a chasglu enghreifftiau gan fotanegwyr.

Statws: Mae’r rhywogaeth wedi ei rhestru fel un Agored i Niwed ar Rhestr Goch IUCN. Mae’n genedlaethol brin yn y DU ac yn flaenoriaeth cadwraeth yn Sir Ddinbych. Mae Creigiau Eglwyseg wedi eu gwarchod fel rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Mynydd Llandysilio a Minera.

Footer

Gwnaed gan Splinter