Newyddion a Digwyddiadau
Digwyddiadau i ddod
Grug a Chaerau Penycloddiau
20.05.2012
Ffens Foel Fenlli
21.05.2012
Newyddion Diweddaraf
Diogelu adar sy'n nythu: peidiwch â thorri'r gyfraith!
29.03.2012
Perllannau Traddodiadol yng Nghymru: Galw am Wirfoddolwyr
19.03.2012
Tudalen Gweplyfr
Newyddion a Digwyddiadau
Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych yn gweithio i wella tirluniau, bywyd gwyllt a threftadaeth arbennig Sir Ddinbych ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd i helpu pobl i fwynhau a gwerthfawrogi eu hamgylchedd. Rydyn ni’n rheoli mwy na 32 o safleoedd cefn gwlad fel mannau gwerthfawr i ymweld a’u gwarchod, rhai yn cael eu cydnabod yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Gallwch ddefnyddio’r adran hon i chwilio am Ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn Sir Ddinbych ac i gael y Newyddion diweddaraf o Wasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych. Gobeithio y byddwch chi’n mwynhau Allan am Dro yng nghefn gwlad ardderchog Sir Ddinbych.
Mae’r tîm bychan wedi bod yn gyfrifol am lawer o brosiectau sy’n cyfrannu at fyw’n gynaliadwy ac sy’n annog parchu’r amgylchedd. Mae’r llwyddiannau’n cael eu dangos mewn taflen newyddion flynyddol. Ni ellid bod wedi llwyddo cymaint heb ein partneriaid a’r gwirfoddolwyr anhygoel sydd wedi rhoi’n hael o’u hamser, eu sgiliau a’u brwdfrydedd.
Newyddion Cefn Gwlad Ionawr 2012
O Gwmpas 2012
Mae’r arweiniad hanfodol hwn i deithiau cerdded gydag arweinydd, ac i weithgareddau a thasgau cadwraeth yng Nghefn Gwlad Sir Ddinbych yn cynnig mwy o brofiadau sy’n addas ar gyfer hyd yn oed mwy o bobl.
Newyddion Cefn Gwlad 2010
Mae eleni yn flwyddyn arbennig iawn i Wasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych a Bryniau Clwyd. Dathlwn 25 mlynedd ers i Fryniau Clwyd gael eu dynodi’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE), pen-blwydd 200 mlynedd ers gosod carreg sylfaen Twr y Jiwbilî ar ben Moel Famau, ac mae’n nodi hefyd flwyddyn derfynol Cynllan Tirwedd y Grug a’r Caerau o dan nawdd Cronfa Treftadaeth y Loteri.
Newyddion Cefn Gwlad 2009
Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio i wella’r dirwedd, y bywyd gwyllt a threftadaeth arbennig Sir Ddinbych a Bryniau Clwyd Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE), a hefyd i fod yn gymorth i bobl fwynhau a gwerthfawrogi’u cynefin. Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych yn rheoli dros 34 o safleoedd Cefn Gwlad yn lleoedd sy’n werth ymweld â hwy a’u gwarchod, dynodwyd rhai yn genedlaethol neu’n rhyngwladol.