Marchogaeth Ceffylau
Cysylltiadau perthnasol
Digwyddiadau i ddod
Grug a Chaerau Penycloddiau
20.05.2012
Ffens Foel Fenlli
21.05.2012
Newyddion Diweddaraf
Diogelu adar sy'n nythu: peidiwch â thorri'r gyfraith!
29.03.2012
Perllannau Traddodiadol yng Nghymru: Galw am Wirfoddolwyr
19.03.2012
Tudalen Gweplyfr
Marchogaeth Ceffylau
Mae Sir Ddinbych yn lle ardderchog i fforio ar gefn ceffyl, boed hynny’n lonydd coediog a thiroedd eang Dyffryn Clwyd neu rostir agored a llwybrau mynydd Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Mae yna dros 183km o Lwybrau Ceffyl yn Sir Ddinbych sydd, o’u cyfuno â’r culffyrdd sydd hefyd yn agored i rai ar gefn ceffyl, yn dod yn 200km a mwy o lwybrau sydd ar gael ar gyfer marchogaeth.
Mae llwybrau ceffyl wedi eu cyfeirbwyntio gyda saethau glas ac mae gan gerddwyr, beicwyr a rhai sy’n marchogaeth ceffylau hawl i’w defnyddio. Fe ganiateir gyrru car a cheffyl ar y culffyrdd ond nid ar y llwybrau ceffylau.
Mae’r Clwyd Range Rider yn wefan leol sydd wedi ei sefydlu ar gyfer marchogwyr ceffylau i ddod o hyd i wybodaeth am farchogaeth ceffylau’n lleol. Mae yna arolwg ar-lein hefyd i farchogwyr ceffylau ei chwblhau am fynediad yn yr ardal a’u profiad ohoni.
Y Gymdeithas Geffylau Brydeinig yw prif elusen aelodaeth farchogol y DU sy’n gweithio er mwyn lles a chyrchiad pob ceffyl a marchogwr. Caiff Sir Ddinbych ei chynrychioli gan ardal Gogledd-ddwyrain Cymru. I ddarganfod mwy ewch i (www.bhs.org.uk).