Navigation

Content

Ymylon Ffyrdd

Byw ar yr Ymylon - Diogelu Blodau Gwyllt Sir Ddinbych

Mae ymylon ffyrdd wedi dod yn fwyfwy pwysig fel hafan ar gyfer bywyd gwyllt oherwydd, yn wahanol i lawer o gynefinoedd glaswelltir eraill, maent wedi cael llonydd a heb hael eu dinistrio gan wrteithiau a phlaladdwyr.

Ymylon ffyrdd, Bont y Allt GochMae hyn yn golygu eu bod yn gallu cefnogi amrywiaeth o flodau gwyllt prydferth a phrin - llawer ohonynt wedi diflannu’n gyfan gwbl o gaeau gefn gwlad. Mae hyn yn ei dro yn caniatáu i amrywiaeth o fywyd gwyllt ffynnu; o gacwn a gloÿnnod byw i ymlusgiad, amffibiad, adar a mamaliaid bychain. Gall ymylon ffyrdd hefyd weithredu fel coridorau pwysig sy’n caniatáu bywyd gwyllt i symud o un lle i’r llall yn ddiogel.   

Hanes

Mae'r dolydd gwair traddodiadol, a arferai fod yn gartref i’r rhywogaethau hyn, wedi lleihau’n ddramatig ers y 1930au. Ym Mhrydain mae 97% ohonynt bellach wedi diflannu. Mae arferion ffarmio modern a’r cynnydd mewn aredig, draenio, y defnydd o wrtaith a chwynladdwyr a thorri gwair yn gynharach ar gyfer silwair wedi arwain at leihad yn nifer y dolydd bywyd gwyllt.

Blodau gwyllt ar yr ymylon ffyrddYn ogystal, mae dulliau modern o dorri ymylon ffyrdd, gyda’r gwaith yn dechrau yn fuan yn y gwanwyn, wedi achosi gostyngiad yng ngwerth ymylon ffyrdd ar gyfer bywyd gwyllt. Er bod manteision i dorri ymylon ffyrdd, fe ddylid rhoi cyfle i’r planhigion flodeuo a hadu cyn torri’r gwair. Byddai hynny’n helpu’r blodau gwyllt i ffynnu o flwyddyn i flwyddyn a helpu i ddiogelu'r bywyd gwyllt sy'n hela, nythu ac yn byw ar ymylon ffyrdd. Mae gwella ffrwythlondeb y pridd drwy dorri gwair a chrafu priddoedd hefyd yn annog glaswellt brasach a rhywogaethau egnïol sy’n byw ar draul y blodau gwyllt. Os caiff ei adael heb ei reoli, bydd prysgwydd a rhywogaethau coediog yn tyfu.

Y Prosiect

Mae'r prosiect yn ceisio hyrwyddo rhaglen fwy cydymdeimladol ar gyfer torri ymylon ffyrdd gwledig yn Sir Ddinbych er mwyn i flodau a bywyd gwyllt ffynnu. Mae rhaglen reoli llai dwys wedi ei rhoi ar brawf ers 2005 yn Llanarmon-yn-iâl, Llandegla a Bryneglwys. Ac eithrio pan fo materion diogelwch y ffordd, nid yw’r gwair wedi ei dorri cyn amled ac nid yw wedi ei dorri tan ddiwedd yr haf / dechrau’r hydref er mwyn rhoi cyfle i’r blodau flodeuo a hadu.

Yn 2013 cynhaliwyd arolwg i asesu effaith y rhaglen hon. Daethpwyd i'r casgliad bod y rhaglen yn llwyddo i hybu cynefinoedd blodau gwyllt cyfoethog. Mae ymylon ffyrdd yn cefnogi amrywiaeth o rywogaethau, gan gynnwys rhai anghyffredin a phrin. Ni chafwyd unrhyw broblem o ran diogelwch y ffyrdd.

Nod y prosiect bellach yw ehangu’r polisi yma i ardaloedd eraill o fewn y sir. 

Adroddiad Arolwg Llystyfiant – Gwarchodfeydd Natur Ymyl Ffordd ac Ardaloedd Peilot Rheolaeth Amgen o Leiniau Ymyl Ffordd Sir Ddinbych

Adroddiad Arolwg Llystyfiant – Gwarchodfeydd Natur Ymyl Ffordd ac Ardaloedd Peilot Rheolaeth Amgen o Leiniau Ymyl Ffordd Sir Ddinbych

Download

Footer

Gwnaed gan Splinter