Navigation

Content

Llyffant cefnfelyn


Prosiect y Llyffant Cefnfelyn

Mae’r streipen felen i lawr eu cefnau a’u maint bychan yn gwahaniaethu’r llyffant cefnfelyn oddi wrth y llyffant cyffredin. Maent yn hoffi byw mewn pyllau bas cynnes mewn twyni tywod arfordirol, gan aeafgysgu yn y twyni trwy fisoedd y gaeaf. Maent yn hela infertebratau mewn ardaloedd o lystyfiant byr. Amddiffynnir y rhywogaeth dan gyfraith Ewropeaidd am ei bwysigrwydd rhyngwladol ac mae wedi ei ddynodi yn rhywogaeth BAP yn Sir Ddinbych ac yn y DU.

Mae gan y llyffant cefnfelyn streipen felen i lawr ei gefn (Sam Dyer)

Hanes

Yn hanesyddol yng Ngogledd Cymru roedd y llyffant cefnfelyn yn eang, gyda phoblogaethau’n cyrraedd ar draws arfordir y gogledd ac Ynys Môn. Yn anffodus, oherwydd newid mewn defnydd tir a datblygiad, mae’r boblogaeth wedi diflannu’n llwyr o Gymru yn ail hanner yr 20fed ganrif.

Y prosiect

Penbyliaid llyffantod cefnfelyn ym myllau Gronant

Cychwynnwyd y prosiect llyffant cefnfelyn yn 2000 ac mae wedi ei ymgymryd gan Wasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ymlusgiaid gyda chefnogaeth ariannol gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru. Crëwyd pyllau yng Ngwarchodfa Natur Leol Twyni Gronant a Thwyni Talacre gerllaw yn Sir y Fflint, yn barod i ailgyflwyno’r llyffant. O 2000 i 2003 adleolwyd penbyliaid yn llwyddiannus o arfordir Sefton yng Nglannau Merswy i ddwy ardal yng Ngogledd Cymru. Rheolir y pyllau a’r gynefin o gwmpas er budd y llyffantod cefnfelyn ac rydym yn monitro’r boblogaeth bob blwyddyn.

 

 

 

 

 

 

 

   
 
  

Footer

Gwnaed gan Splinter