Navigation

Content

Madfall y twyod

Prosiect Madfall y Tywod Gogledd Ddwyrain Cymru

Mae madfallod y twyni yn un o dri math o fadfall i’w gael yn y DU, ond dyma’r prinaf o bell ffordd. Maent yn cael eu cymysgu gyda’r madfall cyffredin yn aml, ond mae ganddynt smotiau tywyll fel llygaid gyda chanol gwyn iddynt (a elwir yn oseli) sy’n mynd i lawr y corff, ac maent yn fwy na’r madfall cyffredin.

Madfall y twyni gwrywaidd yn dangos y marciau gwyrdd i lawr ochr ei gorff (Christian Middle)

Mae gan y madfallod gwryw ochr werdd, sy’n arbennig o lachar yn ystod y tymor bridio. Maent yn byw mewn twyni tywod lle mae llawer o hesg môr. Mae madfallod y tywod wedi eu hamddiffyn dan gyfraith y DU ac Ewrop ac maent yn rhywogaeth sy’n cael eu blaenoriaethu ar gyfer cadwraeth dan Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Sir Ddinbych.  

Hanes

Yn hanesyddol, roedd madfallod y tywod i’w cael mewn systemau twyni ar arfordir gogledd a gorllewin Cymru. Yn anffodus, roeddynt wedi diflannu’n llwyr o arfordir Cymru erbyn canol yr 20fed ganrif, oherwydd datblygu a newidiadau gan ddyn i ecosystemau arfordirol.

Y prosiect

Cychwynnodd Prosiect Madfallod y Twyni yn 2003 gyda chyllid gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru gan ganolbwyntio ar Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Yn y blynyddoedd ers hynny, ailgyflwynwyd tri grðp o fadfallod ifanc i Warchodfa Natur Leol Twyni Gronant, ar ôl ailgyflwyniad llwyddiannus i Dalacre Warren yn Sir y Fflint. Caiff y boblogaeth ei monitro pob blwyddyn gan staff a gwirfoddolwyr. Mae gwaith hefyd ar y gweill i wella addasrwydd y cynefin, yn y gobaith y bydd y boblogaeth yn sefydlogi ac yn ehangu.

Madfall y twyni ifanc yn cael ei ryddhau yn nhwyni Gronant yn 2004

Ym mis Medi 2013 daeth safle newydd sbon yn Nhalacre, Sir y Fflint, yn rhan o’r prosiect pan ryddhawyd 65 madfall y tywod ifanc. Roedd y madfallod hyn, a fridiwyd gan Sw Gaer a dau fridiwr annibynnol arall Paul Hudson a Ray Lynch, ond yn ychydig gentimetrau o hyd. Bydd mwy o fadfallod y tywod yn cael eu rhyddhau yn y blynyddoedd nesaf.

Fe ddylai gwirfoddolwyr ac arnynt eisiau dysgu mwy am y rhaglen fonitro gysylltu â Lizzy Webster ar 01824 708263 neu elizabeth.webster@sirddinbych.gov.uk.

Footer

Gwnaed gan Splinter