Navigation

Content

Pathew

Prosiect y Pathew yng Ngogledd Cymru
Mae pathew y cyll yn frown golau ac yn wahanol i lygod eraill, mae ganddo gynffon flewog. Mae’r mamal cysglyd hwn yn treulio ei amser yn hela yn y coed, ac nid yw’n dod i lawr i’r ddaear yn aml. Gall dreulio hyd at dri chwarter ei fywyd yn cysgu mewn nythod crynion wedi eu gwneud o risgl a dail gwyddfid.
Yn arferol, byddai’r nythod yn cael eu hadeiladu mewn gwrychoedd neu dyllau mewn coed, ond maent yn fodlon iawn defnyddio blychau nythod pwrpasol. Dros fisoedd oer y gaeaf byddant yn cysgu ar neu islaw’r dddaear, gan ddeffro yn y gwanwyn. 

Pathew gwrywaidd a ganfuwyd yn ystod arolwg yn yr hydref mewn coedlan ger Clocaenog (Angela Smith)

Cyfrifir y pathew yn rhywogaeth sy’n bwysig yn rhyngwladol a chaiff ei warchod dan ddeddfwriaeth Ewropeaidd a deddfwriaeth y DU.

Hanes

Yn hanesyddol roedd y pathew yn gyffredin ledled Cymru a Lloegr. Ond yn y 100 mlynedd diwethaf mae’r niferoedd a’r dosbarthiad ledled y DU wedi haneru. Mae’r dirywiad yn bennaf oherwydd rheolaeth wael a darnio coedlannau collddail.

Y prosiect

Ers 2005 mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru wedi arwain Prosiect y Pathew yng Ngogledd Cymru. Y nod yw cynyddu gwaith monitro poblogaethau pathew hysbys ac archwilio cynefinoedd coedlannau posibl ledled Gogledd Cymru. Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych yn bartner yn y prosiect ac rydym yn cymryd rhan yn y gwaith o fonitro’r pathew.

Dan y prosiect, gosodwyd 900 o flychau pathew mewn amrywiol goedlannau yng Ngogledd Cymru a chanfuwyd o leiaf 14 o leoliadau newydd lle mae’r pathew yn byw. Ynghyd â monitro’r rhywogaeth hynod hwn, mae gwaith ar gynefin y pathew wedi bod yn flaenoriaeth, ac mae’r cysylltiadau rhwng poblogaethau hysbys wedi gwella, trwy greu gwrychoedd. Mae’r prosiect nawr yn dibynnu ar fyddin o wirfoddolwyr medrus i barhau gyda’r gwaith o fonitro’r pathew ledled Gogledd Cymru.

Am wybodaeth bellach, ewch i dudalennau gwe Prosiect y Pathew yng Ngogledd Cymru.

Footer

Gwnaed gan Splinter