Navigation

Content

Ffromlys yr Himalaya

Prosiect Ffromlys yr Himalaya Dyffryn Alun

Mae'r ffromlys yr Himalaya yn rhywogaeth oresgynnol anghynhenid o ardal Himalaya Asia, ond cafodd ei ddwyn i’r DU yn y 1800 fel planhigyn addurniadol ac mae wedi dianc i gefn gwlad.

Blodau’r ffromlys yr Himalaya

Mae’n blanhigyn tal, yn tyfu rhyw ddwy neu hyd yn oed dair medr o uchder, ac mae’n cynhyrchu blodau pinc, melys eu harogl rhwng Mehefin a Hydref. Mae ei lwyddiant yn rhannol oherwydd bod yr hedyn goden yn medru saethu’r hadau allan i bellter o 7 medr. Gall hadau’r planhigyn hwn oroesi a hyd yn oed dechrau egino dan y dðr, sy’n golygu ei fod yn lledaenu’n gyflym iawn ar hyd afonydd. Gallant gystadlu’n hawdd iawn yn erbyn planhigion cynhenid y DU trwy eu cysgodi rhag yr haul.

Y prosiect

Cychwynnodd y prosiect i reoli’r Ffromlys Chwarennog yn Nyffryn Alun yn 2008 ac mae gwaith i gael gwared y rhywogaeth wedi digwydd bob blwyddyn ers hynny.  Nid oes gan rai rhannau o ddalgylch yr afon a oedd unwaith yn fôr o binc unrhyw ffromlys o gwbl, ac yn gyffredinol mae wedi lleihau yn ardal y prosiect.  Un ffactor allweddol yn llwyddiant y prosiect oedd y dull systematig o ddechrau ym mlaenau’r afon a gweithio i lawr, felly’n dileu’r ffynhonnell hadau ffromlys i fyny’r afon a all achosi ail bla.  Yr ail ffactor oedd cyfraniad gwirfoddolwyr ymroddedig fu’n rheoli eu darn eu hunain o’r afon.  Mae gan y Ffromlys Chwarennog wreiddiau byr iawn a gellir eu tynnu allan yn hawdd â llaw.

Ffromlys yr himalaya

Mae’r prosiect yn raddol symud i lawr yr afon tuag at y cydlifiad â’r Afon Dyfrdwy, fodd bynnag rydym yn parhau’n wyliadwrus ym mlaenau’r afon i sicrhau nad yw’r Ffromlys Chwarennog yn dychwelyd.  Wrth i ni symud i lawr yr afon, rydym yn chwilio am fwy o wirfoddolwyr a grwpiau cymunedol â diddordeb mewn cymryd rhan yn y prosiect - cysylltwch trwy e-bostio biodiversity@sirddinbych.gov.uk neu ffonio 01824 708263.

Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng cynghorau lleol, asiantaethau statudol, cyrff cadwraeth, grwpiau cymunedol ac unigolion yn gwirfoddoli.  Ers 2013 mae’r prosiect wedi derbyn arian gan Lywodraeth Cymru trwy Gronfa Ecosystemau Gwydn fel rhan o Brosiect Rhywogaethau  Anfrodorol Ymledol y Ddyfrdwy, dull graddfa-dalgylch i reoli rhywogaethau sy’n broblem gan gynnwys  y Ffromlys Chwarennog, Canclwm Japan a’r Efwr Enfawr.

Lawr lwythwch ein taflen isod i wybod mwy am reoli’r Ffromlys Chwarennog a’r dulliau gwahanol y gellir eu defnyddio.

Ffromlys yr Himalaya: Rhybudd Rhywogaeth Ymwthiol

Ffromlys yr Himalaya: Rhybudd Rhywogaeth Ymwthiol

Darllenwch am ffromlys yr Himalaya a'r problemau a all ei achosi, a chael gwybod sut i gymryd rhan â rheoli planhigyn ymledol hwn.

Download

Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy – yr Ymosodiad Adroddiad Cryno 2013

Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy – yr Ymosodiad Adroddiad Cryno 2013

Download

Footer

Gwnaed gan Splinter