Bioamrywiaeth
Newyddion Diweddaraf
Ystlumod Pedol Lleiaf Nantclwyd yn Serennu
22.05.2015
Adfywio Tirlun Byw
05.12.2014
Tudalen Gweplyfr
Llygoden bengron y dwr
Prosiect Adfer Llygod Pengron Y Dwr Arfordir Gogledd Ddwyrain Cymru
Mae llygoden bengron y dwr y mwyaf o lygod Prydain ac yn aml yn cael ei chamgymryd fel llygoden fawr. Yn ddryslyd, yr enw arall arni yn Saesneg yw llygoden fawr y dwr (water rat) (fel ‘Ratty’ yn Wind in the Willows). Gellir gwahaniaethu rhyngddynt â llygod mawr gan eu cynffonau blewog, clustiau llai, crwn a wyneb mwy fflat.
Maent yn hoffi bwyta llystyfiant ar ymyl yr afon, megis gweiriau a hesg, ond medrent fwydo ar blanhigion eraill a phryfetach, ac rhaid iddynt fwyta hyd at 80% o bwysau eu corff mewn un diwrnod. Maent yn cael rhwng dau a phum torllwyth bob blwyddyn, yn geni rhwng tri ac wyth o rai ifanc, ond mae llawer o’r rhai ifanc yn marw a does dim llawer yn byw mwy na thair blynedd.
Mae llygod pengron y dwr yn byw wrth ymyl y dwr ac mae’n well ganddyn nhw ddyfrffyrdd gyda llif araf a glannau serth er mwyn cloddio eu tyllau. Fel arfer mi fydd yna sawl mynediad i’r twll; bydd rhai o dan y dwr, rhai ar lan y dwr ac eraill yn uwch i fyny'r lan. Mae'r system aml-fynedfa yma’n caniatáu i'r llygod pengron y dwr ddianc yn gyflym rhag ysglyfaethwyr ac mae mynedfeydd uwch yn darparu lloches pan fo lefel y dwr yn codi.
Hanes
Roedd gynt i’w weld ar hyd a lled dyfrffyrdd y DU, ond mae llygoden bengron y dwr yn hysbys nawr fel y mamal sy’n dirywio gyflymaf ym Mhrydain. Yn y degawd diwethaf mae’r niferoedd wedi cwympo 90%.
Mae’r niferoedd wedi gostwng yn bennaf oherwydd nad oes digon o gynefinoedd addas ar eu cyfer ac oherwydd bygythiad y minc Americanaidd.
Y prosiect
Fel rhan o Brosiect Adfer Llygoden Bengron y Dwr Arfordir Gogledd Ddwyrain Cymru rydym yn gofyn i'r cyhoedd ymuno yn yr 'helfa llygod pengron y dwr' drwy roi gwybod am unrhyw lygod pengron y dwr y maent wedi’u gweld yn ardal Gogledd Ddwyrain Cymru.
Mae gennym ddealltwriaeth sylfaenol o ddosbarthiad llygoden bengron y dwr yn ein hardal prosiect ond mae gennym lawer o fylchau ac mae llawer o'r achosion o’u gweld yn hen iawn. Ar hyn o bryd gallai pobl fod yn gweld llygod pengrwn y dwr pan fyddant yn mynd am dro neu yn ddigon ffodus i’w gweld mewn pwll neu ffos leol, ond maent yn cadw'r wybodaeth iddynt hwy eu hunain a byddem yn hoffi iddynt ei rhannu gyda ni fel y gallwn dargedu ymdrechion cadwraeth yn fwy effeithiol.
Os ydych chi wedi gweld llygoden bengron y dwr, ewch i www.cofnod.org.uk a chliciwch ar ‘Cofnodi Llygoden Bengron Y Dwr’.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am sut mae'r prosiect yn symud ymlaen beth am ein dilyn ar facebook.