Navigation

Content

Môr-wennol fach

Prosiect Môr-wennol Fach

Daw’r Fôr-wennol Fach i’r DU o Orllewin Affrica yn yr haf i fridio, gan gyrraedd yn gynnar ym mis Mai a gadael ym mis Awst. Dyma’r lleiaf o’r 5 rhywogaeth o fôr-wenoliaid yn y DU, a gellir ei adnabod gan y gynffon fer, talcen gwyn a phig melyn amlwg gyda blaen du.

Hanes

Y grđp o fôr-wenoliaid sydd i’w gweld ar draeth Gronant ger Prestatyn yw’r unig gytref sy’n bridio yng Nghymru. Mae’r safle yn rhyngwladol bwysig gan ei fod yn cyfrannu 10% tuag at y boblogaeth gyfan sy’n bridio yn y DU, ynghyd ag ychwanegu at gytrefi pwysig eraill.

Mae’r adar môr swil hyn yn sensitif iawn i unrhyw fath o aflonyddiad. Mae pob rhywogaeth o fôr-wennol yn gadael y nyth yn gyflym os oes aflonyddiad, mewn rhywbeth a elwir yn arswyd. Gallai’r aflonyddiad lleiaf olygu dirywiad dinistriol i’r gytref hanfodol hon. Os ydych yn mynd i weld y gytref, defnyddiwch y llwyfan gwylio sydd wedi ei ddarparu ar eich cyfer.

Y prosiect

Yn 2005, cafodd y cyfrifoldeb o reoli’r gytref ei roddi gan y Gymdeithas Frenhinol ar Gwarchod Adar – yr RSPB - i Wasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych. Ers hynny, mae’r gytref wedi parhau i gynyddu’n sylweddol, gan gyrraedd 120 o barau bridio yn 2011.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli gyda’r gwasanaethau cefn gwlad a helpu’r fôr-wennol fach, cysylltwch ag Adrian Hibbert ar adrian.hibbert@sirddinbych.gov.uk

Môr-wennol Fach yn deori ei chywion (John Power)

Footer

Gwnaed gan Splinter