Bioamrywiaeth
Newyddion Diweddaraf
Ystlumod Pedol Lleiaf Nantclwyd yn Serennu
22.05.2015
Adfywio Tirlun Byw
05.12.2014
Tudalen Gweplyfr
Merywen
Prosiect Merywen
Mae’r ferywen yn brysgwydd bytholwyrdd sy’n tyfu’n araf iawn, a gall dyfu hyd at 10m dan yr amodau cywir. Mae’r aeron yn cael eu cynhyrchu trwy gydol y flwyddyn a gall yr hadau gymryd hyd at ddwy flynedd i egino. Yn Sir Ddinbych mae’r ferywen i’w gweld mewn un lleoliad yn unig ar Fryniau Prestatyn. Mae’n rhywogaeth blaenoriaeth Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth yn Sir Ddinbych, ac yn rhywogaeth blaenoriaeth yn y DU.
Hanes
Yn hanesyddol, roedd yn gyffredin yn y DU a defnyddiwyd aeron y planhigyn i flasu jin. Ers y 1970au mae wedi gweld dirywiad dramatig o 70%. Ystyrir mai pori gormodol ynghyd â cholli tir pori mewn ardaloedd eraill sydd wedi arwain at y dirywiad hwn.
Y prosiect
Cafwyd bod y planhigion meryw ar Fryniau Prestatyn yn hen iawn, ac nid oeddynt yn atgynhyrchu bellach, felly heb ymyrraeth byddai’r planhigion wedi eu colli. Yn 2008, mewn partneriaeth gyda Sð Caer, plannwyd planhigion ifanc ar Fryniau Prestatyn a oedd wedi eu tyfu o doriadau a gymerwyd o’r planhigion a oedd eisoes ar y safle. Mae’r planhigion hyn yn cael eu monitro ac mae’r llystyfiant o gwmpas yn cael ei reoli gan Wasanaeth Cefn Gwlad Cymru yn y gobaith o ddatblygu poblogaeth iach o blanhigion meryw.