Navigation

Content

Tylluan wen

Prosiect y Dylluan Wen, Gogledd Ddwyrain Cymru

Gellir adnabod yr aderyn nosol cain hwn gan ei adenydd a’i gefn llwydfelyn, y gwyn llachar oddi tano a’r wyneb siâp calon. Gellir hefyd ei adnabod gan ei gri sydd fel sgrech.

Gan addasu’n hawdd i strwythurau dynol, bydd y dylluan wen yn hapus yn nythu mewn hen adeiladau a sguboriaid, ynghyd â mewn twll coeden. Bydd y nyth fwyaf dymunol yn agos at laswelltir bras, coedlan a gwrychoedd sy’n gynefinoedd delfrydol i ysglyfaeth y dylluan, mamaliaid bychain. Mae poblogaethau’r dylluan wen yn dibynnu i raddau helaeth ar nifer llygod y gwair yn y flwyddyn honno, eu hoff bryd bwyd!

Mae’r dylluan wen yn rhywogaeth sy’n bwysig yn genedlaethol ac yn cael ei gwarchod yn y DU.

HanesBlwch nyth tylluan wen

Nid oedd cyfrifiad cywir wedi ei wneud ar y dylluan wen tan 1999. Ystyrir bod y poblogaethau wedi gostwng 70% rhwng y 1930au a’r 1980au oherwydd dwysâd amaethyddiaeth; fodd bynnag mae adroddiadau eraill yn awgrymu bod y boblogaeth wedi dechrau gostwng mor gynnar â’r 1800au oherwydd erlyniad gan giperiaid a phobl yn hel wyau. Colli safleoeddd nythu fu achos allweddol dirywiad y dylluan wen yng Ngogledd-ddwyrain Cymru.   

Y prosiect

Mae’r prosiect yn ceisio cynyddu cyfleoedd nythu i’r dylluan wen trwy ddarparu blychau nythu. Gan weithio gyda Grðp Astudio Adar Ysglyfaethus Cymru a thirfeddianwyr preifat, rydym wedi gosod rhyw 25 o flychau nythu ledled y sir. Mae’r rhain yn cael eu monitro, ynghyd â safleoedd nythu naturiol, er mwyn casglu gwybodaeth a gwella dealltwriaeth o’r boblogaeth yn Sir Ddinbych. Mae’r prosiect hefyd yn ceisio cynyddu ymwybyddiaeth o’r dylluan wen ymhlith tirfeddianwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol.

Cyw tylluan wen yn cael ei fodrwyo fel rhan o’r gwaith o fonitro’r blwch nythu

 

 

 

 

 

 

 

 
 
    
Tylluanod Gwynion

Tylluanod Gwynion

Cewch wybod am dylluanod gwynion a chymryd rhan yn ein prosiect tylluanod gwynion yng Ngogledd-ddwyrain Cymru.

Download

Prosiect y Dylluan Wen Gogledd Ddwyrain Cymru Newyddlen (Rhif 4: Gorffennaf 2013)

Prosiect y Dylluan Wen Gogledd Ddwyrain Cymru Newyddlen (Rhif 4: Gorffennaf 2013)

Download

Footer

Gwnaed gan Splinter