Bioamrywiaeth
Newyddion Diweddaraf
Ystlumod Pedol Lleiaf Nantclwyd yn Serennu
22.05.2015
Adfywio Tirlun Byw
05.12.2014
Tudalen Gweplyfr
Dyfrgi
Prosiect y Dyfrgi, Arfordir Gogledd Ddwyrain Cymru
Rhyw 1 medr o hyd, mae’r dyfrgi yn famal hir gyda thraed gweog a chynffon gryf, sy’n golygu ei fod yn medru nofio’n ardderchog. Mae’n defnyddio’r sgiliau nofio hyn i hela ysglyfaeth dan y dðr.
Maent yn hoffi byw mewn systemau dðr glân, iach, megis afonydd, ffynhonnau a phyllau, a hefyd yn mentro i aberau ac ardaloedd arfordirol eraill. Mae’r anifeiliaid unig hyn yn cysgu mewn tyllau ar hyd yr afon a elwir yn wâl, a byddant yn arogl-farcio eu tiriogaeth gyda thom melys ei arogl.
Mae’r dyfrgi wedi ei amddiffyn dan Gyfarwyddeb Cynefinoedd Ewrop a Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad
ac mae hefyd yn rhywogaeth flaenoriaeth yn y DU ac yn Sir Ddinbych.
Hanes
Roedd unwaith yn byw’n eang ledled y DU, ond bu dirywiad mawr rhwng y 1950au a’r 1970au. Ystyrir bod hyn oherwydd colli cynefin, defnydd plaleiddiad helaeth a llygredd. Fodd bynnag, yn yr 20 mlynedd ddiwethaf maent wedi dod yn ôl a bellach mae’r dyfrgi wedi ei gofnodi ym mhob sir yng Nghymru.
Y prosiect
Rydym yn cymryd rhan ym Mhrosiect Dyfrgwn Arfordir Gogledd-ddwyrain Cymru, a ddilynodd ymlaen o’r arolwg o ddyfrgwn arfordirol yn 2004 ar Benrhyn Llyn. Amcan y prosiect yw deall sut mae’r dyfrgwn yn defnyddio’r arfordir. Mae gweld dyfrgi yn y gwyllt yn anodd iawn felly’r ffordd orau i ganfod ei diriogaeth yw chwilio am y baw.
Fel rhan o’r prosiect, mae gwirfoddolwyr wedi bod yn ymgymryd ag arolygon. Bydd y data yn dweud wrthym sut mae’r dyfrgi yn defnyddio’r cynefinoedd arfordirol. Bydd dadansoddiad DNA a deiet ar faw’r dyfrgi trwy brosiect Mamaliaid mewn Amgylchfyd Cynaliadwy yn dweud wrthym pa mor agos yw’r berthynas rhwng pob dyfrgi, ac a ydynt yn wrywaidd neu’n fenywaidd, a pha mor bell y mae tiriogaeth yn cyrraedd, ynghyd â beth gawsant i ginio!
Gyda’i gilydd, bydd yr wybodaeth yn helpu darlunio bywyd dyfrgwn ar ein harfordir.