Navigation

Content

Ystlum pedol lleiaf

Prosiect yr Ystlumod Pedol Lleiaf

Yr ystlum pedol lleiaf yw un o’r rhywogaethau ystlum lleiaf ym Mhrydain. Maen nhw’n pwyso rhwng 5 a 9g, ac mae hyd eu corff rhwng 35 a 45mm. Mae ganddyn nhw drwyn cymhleth i’w helpu nhw ganfod eu ffordd.

Ystlum pedol lleiaf (Mike Castle)Yng ngogledd Ewrop, mae’r ystlumod hyn i’w canfod yng Nghymru a de-orllewin Lloegr. Felly, mae’n rhywogaeth a flaenoriaethir ar gyfer cadwraeth ar draws yr ardaloedd hyn. Yn Sir Ddinbych mae gennym ni sawl clwyd arwyddocaol, gan gynnwys clwydydd mamolaeth, lle mae’r benywod yn dod at ei gilydd ac yn rhoi genedigaeth ac yn magu eu hystlumod bychain. Mae’r benywod yn rhoi genedigaeth i un ystlum bach ar y tro.

Hanes

Yn hanesyddol roedd modd canfod ystlum pedol lleiaf ar draws ynys Prydain, o Gymru i ogledd a de Lloegr. Fodd bynnag, oherwydd aflonyddu ar glwydydd ac arferion amaethyddol dwys, mae’r ystlumod hyn wedi gweld gostyngiad yn eu niferoedd. Ar draws Ewrop mae dirywiad mawr, sydd, yn y pen draw, wedi arwain at ddeddfwriaeth Ewropeaidd i amddiffyn y rhywogaeth ac i ddwysau ymdrechion cadwraeth.

Prosiect

Yn y glwyd famolaeth yn Nantclwyd y Dre yn Rhuthun, rydym ni'n ffilmio'r ystlumod gyda chamerâu teledu cylch cyfyng is-goch. Diolch i arian gan Sw Caer, bu i ni uwchraddio’r system ddechrau 2015 ac rydym ni rðan yn gallu gweld y glwyd ar y teledu yn y fynedfa i'r atyniad i ymwelwyr. Mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor yn dadansoddi'r lluniau i wella ein dealltwriaeth o'r rhywogaeth.

Gallwch hefyd wylio lluniau byw o'r ystlumod ar wefan Sw Caer (yn Saesneg), diolch i nawdd hael gan gwmni NWSG. Gwyliwch yr ystlumod yn fyw yn eu clwyd, 24 awr y dydd, drwy gydol y tymor nythu!

Footer

Gwnaed gan Splinter