Navigation

Content

Y dylluan wen

Mae’r aderyn hardd hwn i’w ganfod ledled y byd, ond yn y DU mae’r rhywogaeth dan fygythiad gan fod ei gynefin wedi ei ddiraddio ac mae safleoedd nythu wedi eu colli.

Tylluan wen ar glwyd (Michael Leach)Disgrifiad ac adnabod: Mae’r dylluan wen yn edrych yn hynod gydag wyneb siâp calon, cefn ac adennydd brown, gwyn oddi tani a llygaid mawr duon. Wrth hedfan mae’n edrych yn wyn. Mae’r alwad yn sgrech annaearol, ac ni ddylid ei drysu gyda galwad y dylluan frech.

Cynefin: Adar y wlad agored yw’r rhain, yn hytrach na’r coedlannau. Y gynefin bwysicaf i dylluanod gwynion yw glaswelltir bras, lle mae ei brae (mamaliaid bychain) i’w canfod mewn niferoedd uchel. Gellir eu gweld yn hela ar dir fferm, ymyl y ffordd, gweundiroedd a chorsydd.

Deiet: Mae deiet y dylluan wen yn cynnwys mamaliaid bach megis llygod o bob math. Mae llygod y gwair yn arbennig o bwysig. Maent yn hela trwy hedfan yn araf nôl a blaen yn chwilio, ac yn arbennig yn gwrando, am eu prae. Unwaith y lleolir mamal bach, mae’n yn hofran uwchben am ennyd, cyn disgyn gyda’i hewinedd miniog wedi eu hymestyn. Ar ôl lladd y prae a’i lyncu’n gyfan, mae’r dylluan yn chwydu’r esgyrn, y dannedd a’r ffwr ar ffurf peled. Weithiau mae’r dylluan wen hefyd yn hela o glwydi.

Ecoleg ac atgynhyrchu: Mae’r dylluan wen yn bennaf allan yn hela yn y wawr a’r cyfnos. Weithiau maent yn hela trwy’r nos, ac yn fwy prin, gellir eu gweld yn ystod y dydd. Maent yn nythu mewn coed gwag neu adeiladau amaethyddol (hefyd mewn blychau nythu artiffisial). Mae pedwar i chwech o wyau gwynion yn cael eu dodwy yn ystod Ebrill neu Fai, gyda’r fenyw yn eistedd arnynt. Mae’r gwryw yn helpu trwy fwydo’r fenwy yn ystod y cyfnod hwn. Mae’r fenwy yn aros gyda’r cywion yn y nyth nes bydd yr ieuengaf o gwmpas tair wythnos oed. Mae’r tylluannod ifanc yn medru hedfan erbyn rhyw ddeg wythnos ac erbyn yr hydref maent wedi gadael i sefydlu eu tiriogaethau eu hunain.

Mae monitro’r dylluan wen yn cynyddu ein dealltwriaeth o’r creaduriaid hardd hyn.

Dosbarthiad: Mae’r dylluan wen yn un o’r adar sydd wedi ei ddosbarthu’n fwyaf eang ledled y byd, yn Ewrop, Affrica, Asia, gwledydd America ac Awstralasia. Ym Mhrydain mae’n absennol yn unig yn Ucheldiroedd a gogledd pell yr Alban. Yn Sir Ddinbych mae dosbarthiad y dylluan wen yn cael ei benderfynu gan argaeledd cynefin a safleoedd nythu addas.

Bygythiadau: Credir bod poblogaeth y dylluan wen yn y DU wedi dechrau dirywio ganol y 19eg ganrif, oherwydd erlyniad. Ers hynny, mae’r rhywogaeth wedi wynebu nifer o fygythiadau gan gynnwys defnyddio plaleiddiad organoglorin yn y 1950au a’r 60au, mwy o draffig ar y ffordd, colli hen goed, arferion amaethyddol yn newid a datblygu amhriodol. Mae gaeafau caled hefyd wedi cael effaith fawr ar oroesiad y dylluan wen.

Statws: Mae’r dylluan wen wedi ei gwarchod dan gyfraith y DU ac mae’n rhywogaeth ar gyfer camau cadwraeth yn Sir Ddinbych.

Footer

Gwnaed gan Splinter