Navigation

Content

Y dyfrgi

Mae dychweliad y dyfrgi yn stori o lwyddiant cadwriaethol – ar ôl dirywio’n ofnadwy ganol yr 20fed ganrif, mae wedi adennill ei dir i ail-goloneiddio llawer o’i gynefin flaenorol ym Mhrydain. Mae bellach i’w weld ym mhob sir yng Nghymru.

Dyfrgi Ewropeaidd (Bernard Landgraf)Disgrifiad ac adnabod: Y dyfrgi Ewrpeaidd yw’r unig ddyfrgi sy’n gynhenid i’r DU ac mae’n perthyn i’r teulu carlymoliaid. Mae’n mesur hyd at ryw 1m mewn hyd, gyda’r gwryw fel rheol yn fwy ac yn drymach na’r fenyw. Mae ganddynt ffwr brown llyfn, traed gweog a chynffon gref, sy’n golygu eu bod yn nofwyr penigamp.

Cynefin: Mae dyfrgwn yn byw mewn systemau dwr glân, iach, gan gynnwys afonydd, llynnoedd a mannau arfordirol, ynghyd â ffosydd, nentydd a phyllau dwr.

Deiet: Mae mwyafrif deiet y dyfrgi yn cynnwys pysgod, gyda llysywod yn arbennig o bwysig. Maent hefyd yn bwyta broga a llyffantod, infertebratau, adar a mamaliaid bychain. Mae dyfrgwn yn hela mewn cynefinoedd dwr môr a dwr ffres. Mae crancod yn cael eu bwyta yn arbennig gan ddyfrgwn ifanc.

Mae baw dyfrgi yn gweithredu fel marc tiriogaethol ac mae hefyd yn ddefnyddiol er mwyn medru adnabod presenoldeb dyfrgwn mewn ardalEcoleg ac atgynhyrchu: Mae dyfrgwn yn anifeiliaid unig, gan gynnal tiriogaeth o hyd at 40km. Mae’r tiriogaethau yn cael eu marcio gan faw’r dyfrgi, sy’n cynnwys signalau arogleuol i ddyfrgwn eraill. Maent yn bennaf yn dod allan yn y nos. Maent yn byw mewn gwâl, dan wreiddiau coed neu mewn llystyfiant trwchus. Defnyddir y wâl ar gyfer bridio a lloches, a defnyddir safleoedd ychwanegol er mwyn gorffwys. Gall y dyfrgwn fridio ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, gan roddi genedigaeth i rhwng un a thri dyfrgi ifanc.

Dosbarthiad: Mae’r dyfrgi Ewropeaidd i’w ganfod yn eang ledled Ewrop, Rwsia, y Dwyrain Canol a rhannau o Asia. Ym Mhrydain maent yn fwyaf niferus yn yr Alban, Cymru a’r De-orllewin, ond maent nawr wedi eu cofnodi yn bridio ym mhob sir ac eithrio Kent. Yn Sir Ddinbych, mae’r dyfrgi i’w weld mewn ardaloedd arfordirol a mewndirol.

Bygythiadau: Dirywiodd poblogaeth y dyfrgi yn y 1950au, ac un o’r prif resymau oedd defnyddio pla-leiddiad organoglorin a oedd yn cronni yn y gadwyn fwyd, gan wenwyno’r dyfrgi. Mae gwahardd cemegau o’r fath a glanhau’r afonydd wedi caniatáu i boblogaeth y dyfrgi adfer ym Mhrydain. Serch hynny, mae dyfrgwn yn parhau i fod yn sensitif i newidiadau yn eu cynefin, ac i lygredd. Bygythiad arall yw; damweiniau ar y ffordd.

Statws: Mae’r dyfrgi wedi ei restru fel rhywogaeth Agos at Fygythiad ar Restr Goch IUCN. Mae wedi ei warchod dan gyfraith y DU ac Ewrop ac mae’n rhywogaeth flaenoriaeth ar gyfer camau cadwraeth ar lefel DU, Cymru a Sir Ddinbych. Mae’r dyfrgi yn rheswm dros ddynodi Afon Dyfrdwy fel Ardal Cadwraeth Arbennig.

Footer

Gwnaed gan Splinter