Navigation

Content

Capiau cwyr

Er yr holl ffyngau gweirdir, y madarch neu’r caws llyffant y gwelwn ni uwch ben y ddaear (y cyrff hadol), dim ond cyfran fechan iawn ydynt o’r ffyngau llawn. Yn y pridd, mae rhwydweithiau mawr o ‘mycelia’ mân, tebyg i wreiddiau a dyma gyfran fwyaf helaeth yr organeb.

Disgrifiad ac adnabod: Mae gan rannau gweledol y capiau cwyr, y cyrff hadol, liwiau llachar, yn amrywio o liwiau melyn, oren a choch, i borffor a hyd yn oed du. Dan y cap ceir yn aml dagellau cwyrog trwchus ac mae rhai rhywogaethau yn llysnafeddog oherwydd bod haen ludiog ar yr arwyneb. Gyda dros 40 o wahanol rywogaethau o’r capiau cwyr ym Mhrydain, mae angen ymarfer i adnabod rhywogaethau unigol - rhowch gynnig ar yr allwedd ar-lein hon gan Brifysgol Aberystwyth.

Clocwedd o’r uchaf ar y chwith: cap cwyr parot (Doug Lee), cap cwyr y ddôl (Amadej Tmkoczy), cap cwyr sy’n duo (Anne Burgess), cap cwyr y twyni.

Cynefin: Mae bron bob rhywogaeth o’r capiau cwyr ym Mhrydain yn byw ar weirdiroedd, fel porfeydd a wellwyd, dolydd gwellt, hen lawntiau ac iardiau eglwys. Gelwir y rhain yn ‘weirdiroedd y capiau cwyr’. Mae angen priddoedd gyda diffyg maeth ar y capiau cwyr, felly ni ddylai fod gwrtaith fod wedi’i roi ar y tir yn ddiweddar. Mae angen i’r tir gael ei bori neu’r gwair gael ei dorri er mwyn cynnal gwair isel, sy’n hyrwyddo hadu. Ceir capiau cwyr hefyd ar rostiroedd, corsydd a chynefinoedd arfordirol fel twyni tywod.

Ecoleg ac atgynhyrchu: Mae gan y capiau cwyr swyddogaeth hanfodol wrth sicrhau gweithrediad ecosystemau gweirdiroedd, drwy leihau maint mater organig yn y pridd. Dan ddaear, caiff ensymau eu secretu sy’n toddi malurion planhigion yn y pridd, rhyddhau maetholion sydd yna’n cael eu hamsugno gan y ffwng. Mae angen y cyrff hadol i atgenhedlu ac maent yn cynhyrchu sborau o fewn y cap, a phan maent yn cael eu rhyddhau, mae’r gwynt yn cael eu cludo oddi wrth y rhiant.

Dosbarthiad: Dosberthir capiau cwyr ledled y byd. Yn Ewrop maent yn fwy cyffredin mewn ardaloedd gwlypach gorllewinol. Rhai o’r safleoedd gorau i weld capiau cwyr yn Sir Ddinbych yw Dinas Brân yn Llangollen, Stad Castell Bodelwyddan a gwarchodfa Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru yn Aberduna, ger Maeshafn.

Bygythiadau: Y bygythiad mwyaf sy’n wynebu capiau cwyr yw colli cynefinoedd, drwy ddatblygu amhriodol ac amaethyddiaeth fwy dwys. Maent hefyd yn sensitif i newidiadau yn eu cynefin, fel amrywiadau mewn lleithder pridd, sy’n gallu gostwng cynhyrchiad cyrff hadol. Mae aredig y tir hefyd yn niweidiol gan ei fod yn chwalu’r mycelia yn y pridd, a gall gymryd degawdau i’w hadfer. Nid yw capiau cwyr, a ffwng yn fwy cyffredinol, wedi’u cofnodi’n ddigonol ac mae eu pwysigrwydd wedi’i esgeuluso. Mae’n ddiddorol nad yw gweirdiroedd gyda’r nifer a’r amrywiaeth fwyaf o gapiau cwyr yn aml mor gyfoethog â hynny o ran planhigion sy’n blodeuo - felly ni fydd cynnal gweirdiroedd sy’n gyfoethog o ran rhywogaethau o reidrwydd yn diogelu capiau cwyr.

Statw­s: Dim ond un rhywogaeth, y cap cwyr lliw datys, sydd wedi’i restru fel rhywogaeth flaenoriaeth ar gyfer cadwraeth ar lefel y DU a Chymru, ond nid oes cofnod ohono yn Sir Ddinbych. Mae capiau cwyr yn flaenoriaeth ar gyfer cadwraeth ar lefel Sir Ddinbych.

Footer

Gwnaed gan Splinter