Marchogaeth Ceffylau
Cysylltiadau perthnasol
Newyddion Diweddaraf
2023: Tymor llwyddiannus arall i’r môr-wenoliaid bach!
31.08.2023
Rhaglen Gwirfoddolwyf Ebrill 2019 - Medi 2019
17.05.2019
Tudalen Gweplyfr
Marchogaeth Ceffylau
Mae Sir Ddinbych yn lle ardderchog i fforio ar gefn ceffyl, boed hynny’n lonydd coediog a thiroedd eang Dyffryn Clwyd neu rostir agored a llwybrau mynydd Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Mae yna dros 183km o Lwybrau Ceffyl yn Sir Ddinbych sydd, o’u cyfuno â’r culffyrdd sydd hefyd yn agored i rai ar gefn ceffyl, yn dod yn 200km a mwy o lwybrau sydd ar gael ar gyfer marchogaeth.
Mae llwybrau ceffyl wedi eu cyfeirbwyntio gyda saethau glas ac mae gan gerddwyr, beicwyr a rhai sy’n marchogaeth ceffylau hawl i’w defnyddio. Fe ganiateir gyrru car a cheffyl ar y culffyrdd ond nid ar y llwybrau ceffylau.
Mae Cymdeithas Merlota Prydain yn elusen aelodaeth blaengar ar gyfer lles a mynediad marchodwyr ceffylau. Cynrychiolir Sir Ddinbych gan ardal Gogledd Ddwyrain Cymru.
Y Gymdeithas Geffylau Brydeinig yw prif elusen aelodaeth farchogol y DU sy’n gweithio er mwyn lles a chyrchiad pob ceffyl a marchogwr. Caiff Sir Ddinbych ei chynrychioli gan ardal Gogledd-ddwyrain Cymru. I ddarganfod mwy ewch i (www.bhs.org.uk).
Marchogaeth y Bryniau
Taith heriol 28km o amgylch Parc Gwledig Moel Famau, ar hyd traciau, ffyrdd, caeau, trwy y goedwig a dros y bryniau. Mae y llwybr ar gyfer marchogion profiadol sydd yn medru canfod ei ffordd yng nghefn gwlad. Parcio ym Maes Parcio Moel Famau (Maes Parcio ochr Moel Fenlli yr rhan isaf) SJ88573.