Navigation

Content

Llysywen bendoll yr afon

Mae llysywen bendoll yr afon yn un o dri rhywogaeth o’r anifail hwn yn Sir Ddinbych. Mae’r pysgod cyntefig hyn, heb safnau, yn cael maethiad trwy fwydo ar feinwe cyrff pysgod eraill.

Mae mandyllau crogennau i’w gweld ar hyd ochr llysywen bendoll yr afon (Tiit Hunt)Disgrifiad ac adnabod: Mae gan lyswennod pendoll gyrff main hir, a cheg fel sugnwr. Mae’r ysgerbwd wedi ei wneud o gartilag. Mae’r oedolion yn mesur rhwng 17 a 50 cm mewn hyd. Gellir gwahaniaethu rhyngddynt a’r ddau rywogaeth llysywen pendoll aral ym Mhrydain (llysywen bendoll y môr a llysywen bendoll y nant) gan eu dwy hasgell gefnol ar wahân.

Cynefin: Mae llysywod pendoll yr afon i’w cael mewn afonydd glân, morydau a’r môr ar wahanol adegau yn eu bywydau.

Deiet: Mae llysywod pendoll yn ysglyfaethu ar bysgod eraill. Maent yn defnyddio eu ceg i osod eu hunain ar gyrff pysgod eraill a rhathellu’r cnawd, sydd fel arfer yn lladd y pysgodyn dan sylw. Mae larfâu yn bwydo ar ddetritws.

Ceg llysywen pendoll yr afonEcoleg ac atgynhyrchu: Mae llysywod pendoll yr afon yn fudol, gyda’r oedolion yn teithio o’r môr i dðr ffres i silio. Caiff ei ysgogi gan dymheredd y dwr, gyda llysywod pendoll yr afon yn silio yn y gwanwyn mewn afonydd mewn niferoedd mawrion gan arwain at farwolaeth yr oedolion. Mae’r larfâu, a elwir yn ‘ammocoetes’ yn newid ar ôl rhyw ddwy flynedd a hanner i dair blynedd a hanner. Fel llysywod ifanc maent yn aros yn yr afon dros y gaeaf ac yna’n mudo i’r môr yn y gwanwyn. Mae’r oedolion yn aros yn y môr am ryw ddwy flynedd cyn mudo’m ôl i’r afonydd i silio.

Dosbarthiad: Mae llysywen bendoll yr afon i’w chael yn eang yn Ewrop gan gynnwys y DU.

Bygythiadau: Mae’n sensitif i newidiadau yn ansawdd y dwr, megis llygredd, ac i newidiadau yn eu cynefin – yn enwedig rhwystrau ar yr afonydd sy’n eu rhwystro rhag mudo. Mae poblogaethau llysywod pendoll yr afon wedi gostwng dros y ganrif ddiwethaf.

Statws: Mae’r rhywogaeth wedi ei gwarchod dan gyfraith Ewrop a’r DU ac mae’n flaenoriaeth ar gyfer camau cadwraeth ar lefel y DU a Chymru. Mae’n nodwedd gymhwyso yn Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Dyfrdwy a Llyn y Bala.

Footer

Gwnaed gan Splinter