Navigation

Content

Madfall y tywod

Mae’r madfall hardd yma yn un o rywogaethau prinaf Sir Ddinbych ac yn byw ar y twyni tywod yng ngogledd y sir.

Madfall y tywod gwrywaidd (Mick Brummage)Disgrifiad ac adnabod: Mae madfall y tywodd yn fwy ac yn drymach na’r madfall cyffredin cysylltiedig, sydd i’w ganfod yn byw yn yr un mannau. Mae madfallod y tywod gwryw yn drawiadol iawn, gydag ochrau gwyrdd llachar. Mae’r fenyw a’r rhai ifanc yn frown, ac mae ganddynt i gyd smotiau tywyll a elwir yn ‘oceli’.

Cynefin: Mae mwyafrif llethol madfallod y tywod ym Mhrydain (dros 95%) yn byw ar weundir iseldirol. Mae’r gweddill – gan gynnwys poblogaethau Gogledd Cymru – yn byw ar dwyni tywod arfordirol. Mae’n well ganddynt dwyni sy’n symud, gyda mannau cynnes cysgodol a llethrau sy’n wynebu’r de, a mosäig o dywod noeth a gwair marram trwchus.

Deiet: Mae madfallod y tywod yn hela infertebratau fel pry cop, ceiliog y gwair, criciedyn.

Madfallod y tywod ifancEcoleg ac atgynhyrchu: Fel pob ymlusgiad, mae madfallod y tywod yn ‘ectothermig’ sy’n golygu eu bod yn dibynnu ar eu hamgylchedd i reoli tymheredd y corff. Mae angen iddynt dorheulo ar dywod cynnes i gynhesu eu bywydau cyn dod yn weithgar, ac mae gweithgarwch yn dibynnu ar y tywydd. Mae gwrywon yn dod allan o’u gaeafgwsg yn gynnar ym mis Mawrth, gyda'r benywod yn dod allan ychydig wythnosau yn ddiweddarach. Nid yw madfallod y tywod yn diriogaethol, ond mae’r gwrywod yn cystadlu gyda’i gilydd am fenywod. Mae’r rhai ifanc yn dechrau deor ddiwedd mis Awst ac yn aros yn weithgar tan Hydref neu Dachwedd cyn gaeafgysgu. Mae’r oedolion yn mynd i gysgu yn gynt, gan fynd i’w gwâl o fis Awst neu Fedi.

Dosbarthiad: Mae madfallod y tywod wedi bod â dosbarthiad cyfyngedig yng Nghymru a Lloegr erioed, ond mae wedi ei leihau ymhellach gan weithgarwch dyn. Aeth y rhywogaeth yn ddiflanedig yg Nghymru, ond mae wedi ei hailgyflwyno ar ddau safle ar arfordir Gogledd Cymru: Twyni Talacre yn Sir y Fflint a Thwyni Gronant yn Sir Ddinbych. Mae eu dosbarthiad byd-eang yn cynnwys Ewrop, Rwsia a chanol Asia.

Bygythiadau: Prif fygythiadau sy’n wynebu’r rhywogaeth hon yw colli cynefin, diraddio cynefin a darnio cynefin. Yng Ngogledd Cymru, mae datblygu ar hyd yr arfordir, megis parciau gwyliau a chyrsiau golff wedi dinistrio llawer o’r cynefin twyni tywod. Dim ond darn bach o’r twyni a oedd yn ymestyn ar hyd yr arfordir sydd ar ôl.

Statws: Mae madfall y tywod wedi ei gwarchod dan gyfraith y DU ac Ewrop ac yn flaenoriaeth ar gyfer cadwraeth ar lefel DU, Cymru a Sir Ddinbych.

Footer

Gwnaed gan Splinter