Navigation

Content

Sir Ddinbych O Fewn Cyrraedd

Mae adran hon y wefan yn canolbwyntio ar y safleoedd cefn gwlad oddifewn i Sir Ddinbych, sy’n cynnig gwahanol lefelau o lwybrau haws eu tramwyo ar gyfer pobl gydag amrywiol lefelau o symudedd, gan ganiatáu cyfle i bawb ymweld â thirwedd amrywiol ac eithriadol Sir Ddinbych.

Mae’r manylder sy ar gael oddifewn i’r mapiau rhyngweithiol yn caniatáu pob defnyddiwr i benderfynu pa un ai ydi’r llwybr yn addas i’w hanghenion a’u gallu unigol eu hunain. Mae nifer o lwybrau ar gael i’w dilyn, gyda dolen gyswllt i bob un o’r safleoedd a ddangosir ar ochr chwith y dudalen. Cynhyrchwyd mapiau rhyngweithiol ar gyfer pob safle, sy’n cynnwys gwybodaeth fanwl ynghylch pob un o’r llwybrau, megis: arwyneb y llwybr, lled a thirwedd; giatiau, camfeydd a dodrefn llwybr eraill, ynghyd â chyfleusterau eraill megis toiledau, parcio a lle i brynu lluniaeth. Yn ogystal â’r map, mae dogfen A4 printiadwy ar gael ar gyfer pob safle. Mae hon yn cynnwys map o’r llwybr a nodweddion pwysig, megis man culaf y llwybr, lleoliad giatiau, toiledau a hyd yn oed yr arosfan bws agosaf.     

O’r llwybr tynnu ar gamlas Llangollen, sy’n cynnig golygfeydd trawiadol o Gastell Dinas Brân a Dyffryn Dyfrdwy tua de’r sir, i Warchodfa Natur Boblogaidd Pwll y Brickfield yn Y Rhyl, mae rhywbeth i bawb yn wir.  

Fe gefnogwyd y llwybrau hyn gan y Rhaglen Ariannu Cynllun Gwella Hawliau Tramwy sydd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i weinyddu gan gyfoeth Naturiol Cymru a Phrosiect Twristiaeth Werdd Cadwyn Clwyd Cyf. Mae Cadwyn Clwyd wedi ymrwymo i gefnogi twristiaeth gynaliadwy yng nghefn gwlad Sir Ddinbych ac fe’u harianwyd  gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru trwy Gynllun Datblygu Gwledig i Gymru 2007-2013. Am fwy o wybodaeth am Cadwyn Clwyd, ewch i wefan www.cadwynclwyd.co.uk

Tra bod pob ymdrech wedi ei wneud i wneud yr adnodd hwn mor gywir ag y bo modd, nid yw yr awduron na'r cyhoeddwyr yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ganlyniad camgymeriadau.

Funders

Footer

Gwnaed gan Splinter