Navigation

Content

Tirweddau Arbennig

Mae Sir Ddinbych yn sir o dirweddau eithriadol a dramatig, yn ymestyn o dwyni tywod gwyntog arfordir y gogledd, dros rug a chaerau Bryniau Clwyd i Ddyffryn dramatig Afon Dyfrdwy yn y de.  Mae’n gyfoethog o wrthgyferbyniadau, gyda rhostir anghysbell Hiraethog yn disgyn i irder Dyffryn Clwyd a tharren fawreddog Eglwyseg yn wynebu Mynyddoedd y Berwyn.

Mae Bryniau Clwyd yn un o dirweddau gwarchodedig gwychaf Prydain, yn enwog am ei gadwyn o fryniau â’u gorchudd o rug porffor, bryngaerau mewn lleoliadau dramatig a golygfeydd bendigedig.  Mae’r Bryniau’n ardal arbennig iawn i fyw ynddi, i weithio ynddi ac i ymweld â hi.  Caiff hyn ei adlewyrchu yn ei statws fel un o ddim ond pump o Ardaloedd dynodedig o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Nghymru sydd, ynghyd â’r tri Pharc Cenedlaethol yn dirweddau mwyaf gwerthfawr y wlad.  A hithau’n enwog am ei golygfeydd syfrdanol, dyma un o dirweddau gwychaf y DU sydd wedi ei darganfod leiaf ac eto dyma’r fwyaf croesawgar a’r rhwyddaf i’w fforio.

Bryniau Clwyd

Mae cymeriad a harddwch y dirwedd syfrdanol yma wedi eu cynhyrchu gan genedlaethau a fu’n anheddu a gweithio’r tir.  Mae tystiolaeth o’r cenedlaethau yma’n cyfrannu tuag at gyfoeth diwylliannol yr ardal ac yn rhoi iddi gymeriad lleol nodedig.  I gydnabod hynny mae rhan o Fryniau Clwyd a Dyffryn Clwyd wedi eu dynodi i fod o Bwysigrwydd Hanesyddol Eithriadol ac mae Dyffryn Dyfrdwy’n ffurfio rhan o Dirwedd o Bwysigrwydd Hanesyddol Arbennig sy’n egluro bod yr amgylchedd hanesyddol yn rhan fawr o’r hyn sy’n gwneud tirwedd Sir Ddinbych yn un mor arbennig.

Mae prosiect y Grug a’r Caerau wedi canolbwyntio ar agwedd arbennig o’r dirwedd hon - y gadwyn nodedig o fryngaerau o’r Oes Haearn sy’n rhedeg ar hyd Fryniau Clwyd ac i Ddyffryn Dyfrdwy, gwrthgloddiau amddiffynnol anferthol sy’n dominyddu llawer o’r copaon ac yn ein hatgoffa ein bod wedi bod yn ffurfio’r ardal hon dros 200 o flynyddoedd yn ôl.  Mae ardal  Prosiect y Grug a’r Caerau yn cynnwys bryngaerau Penycloddiau, Moel Arthur, Moel y Gaer Llanbedr, Moel Fenlli, Moel y Gaer Llandysilio a Chaer Drewyn. 

Yng ngorllewin y Sir mae ardal eang Hiraethog, ardal o dirweddau syfrdanol digyffwrdd gyda rhostir grug tonnog, coedwigoedd eang a llynnoedd tawel.  Fe gafodd yr ardal arbennig hon ei henw o’r gair Cymraeg Hiraeth - fel yr awgryma’r enw mae hon yn ardal o arwyddocâd diwylliannol mawr ac ymlyniad.

Footer

Gwnaed gan Splinter