Navigation

Content

Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych

Pwy ydi Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych a sut allaf i gysylltu â nhw?

O dwyni tywod gwyntog Gronant ar hyd yr arfordir, dros grib rugog Moel Famau, a'r Fryniau Clwyd i Ddyffryn dramatig afon Dyfrdwy, mae Sir Ddinbych wedi ei bendithio â thirwedd amrywiol a thrawiadol.

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych yn dîm deinamig sy’n ymdrechu i wella a hyrwyddo’r dirwedd arbennig yma, ei bywyd gwyllt a’i threftadaeth.  Rydym yn rheoli dros 32 o Safleoedd Cefn Gwlad, yn cynnwys 2 Barc Gwledig a 3 Gwarchodfa Natur Leol fel mannau gwerthfawr i fywyd gwyllt ffynnu ac i chi eu fforio a’u mwynhau.

Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith a wnawn ni wedi ei adeiladu ar bartneriaethau cadarn â chymunedau, gwirfoddolwyr, ffermwyr a pherchnogion tir yn ogystal â sefydliadau eraill  - fel Cyfoeth Naturiol Cymru a Cadw - pob un ohonyn nhw â nod cyffredin o wella ein hamgylchedd a’i gwneud yn fwy hygyrch.

Mae yna ddigon o gyfleoedd i chi allu cael mwy o fudd o gefn gwlad Sir Ddinbych.  Bob blwyddyn fe fyddwn yn cynhyrchu rhaglen ffantastig o ddigwyddiadau o’r enw O Gwmpas.  Mae’r llyfryn hwn sydd am ddim yn orlawn o ddigwyddiadau i’r teulu, teithiau tywys a phrosiectau ymarferol sy’n rhoi pethau cyffrous i chi eu gwneud a lleoedd ardderchog i ymweld â nhw er mwyn i chi allu manteisio’n llawn ar Gefn Gwlad ffantastig Sir Ddinbych.

Hefyd rydyn ni’n cynhyrchu Rhaglen Wirfoddoli sy’n orlawn o amrywiaeth o ddigwyddiadau ymarferol o godi waliau cerrig sychion i losgi grug.  Mae gennym dros 70 o wirfoddolwyr a fydd yn dod yn rheolaidd i gynorthwyo gyda phob mathau o weithgareddau - mae croeso i unrhyw un ddod i roi cynnig arni.

Mae ein tîm ag ystod eang o arbenigedd ac fe allan nhw gynnig cyngor yn y meysydd canlynol:-

  • Bioamrywiaeth
  • Coed a Gwrychoedd
  • Daeareg
  • Archeoleg
  • Mynediad a Hamdden
  • Prosiectau Cymunedol
  • Rheoli Tir

Mae hyn i gyd yn digwydd ar garreg eich drws felly beth am gysylltu â ni

Rhifau cyswllt yn eich ardal chi:

Gogledd Sir Ddinbych – Pwll Brickfields – Y Rhyl - 01745 356197

AHNE Bryniau Clwyd Parc Gwledig Loggerheads – 01352 810614

De Sir Ddinbych – Y Capel - Llangollen – 01978 869618

Footer

Gwnaed gan Splinter