Navigation

Content

Y gwibiwr brith

Nid yw’r glöyn byw bychan hwn erioed wedi bod yn gyffredin yng Nghymru, ond mae’r rhywogaeth wedi dirywio o ran cwmpas daearyddol a maint y boblogaeth yn ddiweddar.

Gwibiwr brith (Natural England)Disgrifiad ac adnabod: Mae gan y gwibiwr brith led adenydd o lai na 3cm. Gellir ei adnabod gan y patrwm du (neu frown tywyll) a gwyn ar ei adenydd. Wrth hedfan gellir ei gymysgu gyda gwyfyn sy’n hedfan yn y dydd neu löyn byw tebyg, y gwibiwr llwyd (sydd â phatrwm mwy dwl ar yr adenydd). Mae’r lindys yn wyrdd-frown gyda phen tywyllach.

Cynefin: Mae cynefin y glöyn byw hwn yn cynnwys llennyrch mewn coedlannau, glaswelltir heb ei wella a hen safleoedd diwydiannol. Yn Sir Ddinbych mae’n ffafrio safleoedd glaswelltir heb eu gwella ar garreg galch, a llennyrch mewn coedlannau.

Deiet: Mae’r oedolion yn bwydo ar neithdar o flodau megis troed yr iâr a blodyn menyn. Mae planhigion bwyd y larfa yn cynnwys amrywiol blanhigion yn nheulu'r rhosyn, megis mefus gwyllt, pumnalen ymlusgol a llysiau'r dryw.

Lindys (Pete Eeles - UK Butterflies)Ecoleg ac atgynhyrchu: Mae’r gwibiwr brith yn byw mewn cytrefi bychain ac mae’n well ganddo ardaloedd cynnes, gyda lloches, Mae’r oedolion yn hedfan o Ebrill i Fehefin. Ar ôl paru, mae’r benywod yn dodwy wyau fesul un ar ochr isaf dail planhigion bwyd mewn mannau cynnes, megis yn agos at ddaear noeth neu lystyfiant byr. Unwaith y maent wedi deor, mae’r lindys yn amddiffyn ei hun trwy adeiladu “pabell”, gan wau ymylon y dail gyda’i gilydd. Maent yn treulio’r gaeaf fel pwpa mewn cocynnau, gan ddod allan fel oedolion yn y gwanwyn. Mae’r oedolion yn hoffi gwres ac yn torheulo. Mae’r gwrywon yn diriogaethol ac yn hel eraill i ffwrdd.

Dosbarthiad: Mae’r gwibiwr brith i’w ganfod mewn rhannau o Ewrop ac Asia. Ym Mhrydain mae i’w ganfod yng nghanol a de Lloegr a rhannau o Gymru, gan gynnwys y gogledd-ddwyrain. Yn Sir Ddinbych mae’r rhywogaeth i’w gweld ar ambell safle, gan gynnwys Parc Gwledig Loggerheads a Chreigiau Eyarth, Pwllglas.

Bygythiadau: Credir bod y gwibiwr brith wedi dirywio o leiaf 64% ers 1980. Mae hyn wedi ei achosi yn bennaf gan golli a diraddio cynefin, oherwydd newidiadau mewn rheoli coedlannau a glaswelltir, megis diffyg tocio traddodiadol a chynnal llwybrau mewn ceoedlannau, a phori amhriodol a defnyddio gwrteithwyr ar laswelltiroedd. Mae darnio cynefin yn broblem, gyda darnau o gynefin addas yn mynd yn fwy gwasgaredig. Gall newid yn yr hinsawdd fod yn ffactor hefyd.

Statws: Mae’r glöyn byw hwn wedi ei asesu fel un Agored i Niwed yn fyd-eang ac wedi ei restru ar Restr Goch Glöynnod Byw ac yn rhywogaeth flaenoriaeth ar gyfer cadwraeth ar lefel y DU, Cymru a Sir Ddinbych.

Footer

Gwnaed gan Splinter