Cerdded
Cysylltiadau perthnasol
Newyddion Diweddaraf
Taith Sgrinio am Oes
01.07.2015
Dewch i Gerdded yn y Flwyddyn Newydd
30.12.2014
Tudalen Gweplyfr
Cerdded
Mae Sir Ddinbych yn lle ardderchog i’w fforio wrth gerdded – ac ni allai fod yn symlach gan fod yna rywbeth yma i bawb. Mae mor hawdd camu allan i dirwedd amrywiol ac eithriadol Sir Ddinbych, o Darren syfrdanol Eglwyseg yn Nyffryn Dyfrdwy i heddwch Dyffryn Clwyd a’r Twyni Arfordirol.
Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa ydi un o’r ffyrdd gorau i fforio’r Sir wrth gerdded. Mae’r Llwybr Cenedlaethol yn dilyn ffin Lloegr - Cymru am 177 milltir ac yn cysylltu Prestatyn â Chas-gwent yn y De. Yn Sir Ddinbych mae’n cysylltu rhai o ardaloedd harddaf y Sir, yn dringo i Lechwedd Prestatyn o’r arfordir ac yn dilyn hyd Bryniau Clwyd cyn croesi mynyddoedd Llandegla a Rhiwabon a disgyn i Ddyffryn Dyfrdwy o lethrau sgri syfrdanol Eglwyseg.
Mae yna nifer o deithiau cylchol ardderchog sy’n defnyddio rhannau o Lwybr Clawdd Offa – felly does dim rhaid i chi gerdded pob un o’r 177 o filltiroedd!
Mae yna nifer o lwybrau eraill sy’n cael eu hyrwyddo yn Sir Ddinbych, yn cynnig llwybrau gyda chyfeirbwyntiau amlwg drwy dirweddau syfrdanol. Mae Llwybr Dyffryn Dyfrdwy, sy’n dechrau yn Llangollen yn ymdroelli’n uchel uwchlaw ochr ogleddol Afon Dyfrdwy ac yn fforio rhannau mwy cuddiedig y dyffryn hardd yma ar ei ffordd i Gorwen dros 5 milltir. Mae Llwybr Gogledd y Berwyn yn llwybr dychwelyd uchel sy’n fforio rhannau gwylltach mynyddoedd y Berwyn ar lwybr 15 milltir yn ôl i Langollen. Mae Taith Brenig yn llwybr newydd sy’n cysylltu Corwen â Llyn Brenig - yn uchel ar Fynydd Hiraethog. Mae’r llwybr 32 milltir yma’n ymdroelli drwy rai o dirweddau mwyaf unig a syfrdanol Sir Ddinbych.
Mae Sir Ddinbych yn Sir wirioneddol hardd ac mae hynny’n arbennig o amlwg wrth ei fforio ar gerdded… ac mae yna ddigon o lwybrau i ddewis ohonyn nhw, o fynyddoedd, dyffrynnoedd, coedwigoedd, glannau afonydd neu arfordir.
Llwybrau Dirgelion y Ddaear
Llwybrau Dirgelion y Ddaear
Crwydrwch Goed Nercwys a Choed Moel Famau gyda’n helfa drysor technoleg uchel. Hwyl I’r teulu I gyd!
Cerddwch Barc Gwledig Loggerheads
Parc Gwledig Loggerheads
Porth i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd.Mae pobl leol ac ymwelwyr yn meddwl y byd o Loggerheads. Bu pobl yn mwynhau dod yma am dro ers dros ganrif.