Navigation

Content

Pathew’r cyll

Mae pathew’r cyll yn un o’n hoff famaliaid. Yn Sir Ddinbych rydym yn ffodus iawn o gael un o’r poblogaethau mwyaf o bathewod yn y DU, yng Nghoed Fron Wyllt ger Rhuthun.

Pathew cysglyd (Sarah Slater)Disgrifiad ac adnabod: Mae’r llygoden fechan hon yn frown o ran lliw ac mae ganddi lygaid mawr du. Yn wahanol i lygod eraill mae ganddi gynffon flewog. Mae cnau cyll wedi eu cnoi yn dangos bod pathewod mewn coedlan, gan eu bod yn cnoi mewn modd penodol iawn. Lawrlwythwch y cerdyn post hwn gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru i ddysgu mwy.

Cynefin: Mae’n well gan bathewod goedlannau collddail gyda chyfoeth o rywogaethau, gyda haenen brysgwydd drwchus. Mae coedlannau wedi eu prysgoedio yn draddodiadol wedi bod yn gynefin bwysig. Maent hefyd i’w canfod mewn coedlan gonifferaidd, prysgwydd a gwrychoedd.

Deiet: yn dibynnu ar y tymor, mae deiet y pathew yn amrywio yn ôl beth sydd ar gael. Mae blodau a phaill yn bwysig yn y gwanwyn, pryfetach yn yr haf a ffrwythau a chnau yn yr hydref. Planhigion pwysig yw cyll, gwyddfid a mieri.

Nyth pathew (Angela Smith)Ecoleg ac atgynhyrchu: Mae pathewod yn bennaf yn nosol ac yn ddringwyr da, gan dreulio’r rhan fwyaf o’u hamser yn chwilio am fwyd yn y coed, ac nid ydynt yn dod i lawr i lefel y ddaear yn aml. Medrent dreulio hyd at dri chwarter o’u hoes yn cysgu mewn nythod crynion wedi eu gwneud o risgl a dail gwyddfid. Fel rheol, byddai’r nythod hon mewn gwrychoedd neu dyllau mewn coed, ond maent yn fodlon iawn defnyddio blychau pathew penodol hefyd. Mae’r tymor bridio rhwng Mehefin a Medi ac fel rheol mae pedwar neu bump mewn torllwyth. Yn ystod misoedd oer y gaeaf, byddant yn cysgu ar neu islaw’r ddaear, gan ddeffro yn y gwanwyn.

Dosbarthiad: Mae Sir Ddinbych tuag at gyrhaeddiad gogleddol tiriogaeth y pathew ym Mhrydain. Mae i’w ganfod ledled Ewrop ac mewn rhannau o Rwsia.

Bygythiadau: Mae’r pathew yn cael ei fygwth gan ddinistrio a darnio ei gynefin. Maent yn naturiol mewn dwyseddau poblogaeth isel ac felly maent yn dueddol o gael eu heffeithio gan newidiadau yn eu hamgylchedd.

Statws: Mae pathew’r cyll wedi ei warchod dan gyfraith y DU ac Ewrop, ac mae’n rhywogaeth blaenoriaeth ar gyfer camau cadwraeth ar lefel DU, Cymru a Sir Ddinbych.

Footer

Gwnaed gan Splinter