Beicio
Cysylltiadau perthnasol
- Beicio Gogledd Cymru
- Bydd y Gyfres Farathon MTB
- Coed Llandegla
- One Planet adventure
- Marsh Tracks
- Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol
Newyddion Diweddaraf
Mwy o bostauTudalen Gweplyfr
Beicio
Mae rhai o’r cyfleoedd beicio gorau sydd i’w cael yn unman yn y DU i’w cael yn Sir Ddinbych, felly beth am fynd allan a fforio’r ardal ar ddwy olwyn? Mae’n ffordd ddelfrydol o fynd o gwmpas trefi ac o weld cefn gwlad. Mae’n helpu gyda thagfeydd ac mae’n lles i’r amgylchedd ac yn ffordd ardderchog o gadw’n ffit.
Mae Sir Ddinbych â llawer o berlau o ran beicio, mae Bryniau Clwyd a Hiraethog â rhai o’r rhwydweithiau llwybrau ceffyl a beicio gorau yn y wlad yn mynd drwy dirwedd o harddwch eithriadol. Mae manylion llwybrau i’r teulu, llwybrau hawdd, cymedrol ac anodd i’w cael ar beiciogogleddcymru.co.uk, ynghyd â dolenni i ddigwyddiadau lleol a chyfleusterau beiciau. Bydd y Gyfres Farathon MTB yn ymweld bob blwyddyn gydag oddeutu 1,300 o feicwyr mynydd yn wynebu sialens Bryniau Clwyd.
Caiff Coed Llandegla, sy’n eiddo preifat, eu cydnabod yn un o’r canolfannau beicio mynydd gorau yn y DU, mae hurio beiciau a hyfforddiant ar gael yn y ganolfan yn ogystal â chaffi arbennig a siop a wnaiff fodloni eich holl anghenion. Yn ystod y gwanwyn fe all bore godwyr gael cipolwg ar un o adar prinnaf Cymru, y rugiar ddu yng Nghoed Llandegla drwy gynllun gwylio’r RSPB, ac yna fwynhau brecwast mawr.
Marsh Tracks yw’r perl ddiweddaraf o ran beicio yn Sir Ddinbych. Mae’n safle cyffrous gyda thrac ffordd caeedig o 1.3km a thrac BMX o safon genedlaethol gyda neidiau a throadau heriol. Mae trac ffordd y cylch yn lleoliad ffantastig ar gyfer cerdded, rhedeg a beicio, yn cynnwys beicio i’r anabl. Gall plant ac oedolion ddod i’r cyrsiau hyfforddi ac mae’r traciau ar gael i’w llogi. Os byddwch chi’n ffansïo newid oddi wrth y beic, beth am roi cynnig ar sesiwn o gerdded Nordig sydd hefyd ar gael yn y Marsh Tracs.
Mae Marsh Tracks ar Lwybr Rhif 5 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol sy’n cysylltu’r Gronant, Prestatyn a’r Rhyl ar lwybr beicio sy’n rhedeg ar hyd arfordir gogledd Cymru bron yn gwbl rydd o draffig. Gellir defnyddio Llwybr Rhif 5 i ymweld â Gwarchodfeydd Natur Lleol Pwll Brickfields a’r Gronant, safleoedd sy’n eiddo i Wasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych ac sy’n cael eu rheoli ganddyn nhw. Yn y Gronant y mae unig gytref fridio’r fôr-wennol fach yng Nghymru.
Mae Sir Ddinbych yn rhan o Ganolfan Ragoriaeth Feicio Gogledd Cymru, wedi ei hariannu gan y Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewropeaidd drwy Raglenni Cronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd a weinyddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.