Navigation

Content

Glan Morfa

Llwybr i bob gallu ydi Glan Morfa, sy’n dilyn glannau aber Afon Clwyd. Pan mae hi ar drai, mae’r safle’n troi’n hafan i fywyd gwyllt, gyda niferoedd enfawr o adar yn gwledda ar y traethellau lleidiog mewn sioe o sšn a sain.

Mae’r llwybr llydan yn eich tywys trwy’r goedwig ifanc gymunedol cyn troi am yn ôl tuag at yr aber. Mae adfywiad diweddar yr ardal wedi trawsnewid yr hen safle sbwriel yn fan agored, sy’n rhagorol ar gyfer gwylio adar, cerdded neu fwynhau’r golygfeydd yn unig.   

Mae’r adar y dylid craffu amdanyn nhw yn cynnwys rhydyddion teithiol megis y rhostog coch a môr-wenoliaid pigddu yn yr hydref; adar sy’n gaeafu megis cornchwiglen, y coesgoch, pibydd y mawn, pibydd y tywod, hwyaid brongoch a’r chwiwell; a phreswylwyr gydol y flwyddyn fel glas y dorlan, pioden y môr, y gylfinir, yr alarch dof a hwyaid yr eithin.

Footer

Gwnaed gan Splinter