Navigation

Content

Coed Llangwyfan

Mae Coed Llangwyfan yn goetir llydanddail 29 erw sy’n adfywio, wedi’i leoli islaw caer Oes Haearn Pen y Cloddiau. Comisiwn coedwigaeth Cymru sy berchen ar y coetir ac fe’i rheolir ar y cyd â Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych. Gall y llwybr fod mor hawdd neu mor anodd ag y dymunwch. Cymerwch lwybr byr llinellol er mwyn profi’r golygfeydd eang ar draws Dyffryn Clwyd, neu cymerwch yr her taith gron 2 filltir, sy’n cynnwys rhai dringfeydd a disgynfeydd mwy serth, o’u cymharu â rhai o’n safleoedd hygyrch eraill. Mae’r llwybrau a ddefnyddir yn llwybrau ceffyl a chilffyrdd poblogaidd. Mae’u harwyneb yn rai naturiol, sy’n gallu bod yn anwastad a mynd yn fwdlyd, yn enwedig yn ystod y misoedd gwlypach.

Footer

Gwnaed gan Splinter