Cerdded
Newyddion Diweddaraf
Taith Sgrinio am Oes
01.07.2015
Dewch i Gerdded yn y Flwyddyn Newydd
30.12.2014
Mwy o wybodaeth
Mae'r llwybr mewn pum rhan. Ceir arwyddion amlwg ar ei hyd wrth iddo groesi tirweddau sy'n amrywiol ac yn llawn hanes a bywyd gwyllt. Dewch i brofi'r llwybrau tawel, y pentrefi heddychlon a'r tafarndai cyfeillgar. Dewch i weld yr hen gestyll, eglwysi a phontydd, a mwynhau'r blodau gwylltion, yr adar a'r gloÿnnod byw.
Mapiau: OS Explorer 255 or 256
Pellter: 21 kilomedr/13 milltir (yr holl daith)
Amser: 1 diwrnod (yr holl daith)
Graddfa: Rhai rhannau'n amrywio o hawdd i ganolig ac anodd
Tudalen Gweplyfr
Llwybr Dyffryn Dyfrdwy
Dechreuwch drwy ddewis eich man cychwyn – naill ai Corwen neu Langollen. Er bod yr arweiniad yn cychwyn o Gorwen, mae modd cerdded ar hyd Llwybr Dyffryn Dyfrdwy o unrhyw gyfeiriad. Os hoffech gerdded o Langollen i Gorwen yna dechreuwch yn rhan olaf yr arweiniad a gweithio'n ôl. Os hoffech gael tro byrrach yna dewiswch ran neu ddwy sy'n addas ichi, neu (i'ch cyrchu i gychwyn neu i ben eich tro) gallwch deithio ar y trên stêm neu ar y cwch ar y gamlas gyda cheffyl yn tynnu.
Mae arwyddion amlwg ar bob cam o'r daith, sy'n 24 kilomedr/15 milltir, a rhennir y daith yn bum rhan gyda mannau hwylus i gychwyn a gorffen pob darn. Syniad da fyddai mynd â Map OS Explorer (clawr lliw oren): naill ai rhif 255 Llangollen a Mynyddoedd y Berwyn, neu 256 Llangollen a Wrecsam gyda chi. Mae'r mapiau'n dangos y llwybr yn fanylach ac yn dangos y lleoedd diddorol eraill sy ar hyd y ffordd.