Navigation

Content

Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa

Yn dathlu 40 mlynedd fel Llwybr Cenedlaethol.

Cafodd Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa ei agor fis Gorffennaf 1971.   Mae’n llwybr cerdded 177 milltir o hyd yn rhedeg ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr o Gas-gwent i Brestatyn.  Mae’n dilyn clawdd gafodd ei adeiladu yn yr wythfed ganrif gan Offa, Brenin Mercia i nodi’r ffin rhwng Teyrnas  Mercia, Canolbarth Lloegr heddiw, a Chymru.

Mae Llwybr Clawdd Offa yn Sir Ddinbych yn mynd drwy dirlun godidog Llangollen, Creigiau Eglwyseg, Mynyddoedd Rhiwabon a Llandegla ac yn dilyn cadwyn ysblennydd Bryniau Clwyd.

Footer

Gwnaed gan Splinter