Cerdded
Newyddion Diweddaraf
Taith Sgrinio am Oes
01.07.2015
Dewch i Gerdded yn y Flwyddyn Newydd
30.12.2014
Tudalen Gweplyfr
Llwybr Archeolegol Brenig
Mae Llwybr Archeolegol Brenig ar lannau gogleddol Llyn Brenig. Maen cyrraedd y tir uchel lle mae golygfeydd godidog dros Hiraethog i Eryri.
Mae archeoleg yr ardal yn gyfoethog. Mae yma fan claddu o'r Oes Efydd yn ogystal ag olion adeiliadau o'r Oesoedd Canol ymlaen.

Archeoleg Brenig
Lleolir Llwybr Archeolegol Brenig ar lannau gogleddol Llyn Brenig. Mae’n cyrraedd y tir uchel lle mae golygfeydd godidog dros Hiraethog i Eryri. Mae archeoleg yr ardal yn gyfoethog. Mae yma fan claddu o’r Oes Efydd yn ogystal ag olion adeiladau o’r Oesoedd Canol ymlaen.

Llwybr Archeolegol Brenig
Mae’r Llwybr Archeolegol tua 4 cilometr o hyd ac yn rhedeg ar draws cefn gwlad agored. Mae’n cymryd tua 11⁄2 i 2 awr i’w gerdded. Mae'n dilyn llwybr gwastad o'r maes parcio ar hyd glannau Llyn Brenig cyn mynd heibio Hafoty Siôn Llwyd a chodi ar hyd llwybr garw i gyrraedd cefn gwlad agored uwchben y llyn. Mae'r ardal yma'n agored, felly sicrhewch, os gwelwch yn dda, eich bod yn gwisgo esgidiau a dillad priodol rhag ofn newidiadau yn y tywydd.
Archeoleg_Brenig - Taith Sain